Sgwrs:Rhestr Pabau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ffurfiau Cymraeg[golygu cod]

Mae llawer o enwau ar y rhestr yma nad sydd â ffurfiau Cymraeg adnabyddus, ac mae'n edrych fel bod awdur gwreiddiol y rhestr wedi gwneud llawer i fyny. Mae'r fath or-Gymreigio yn gallu cael effaith chwerthynllyd weithiau – mae'n anodd adnabod Eugenius (Lladin)/Eugene (Saesneg) ar ôl iddo gael ei drosi'n Owain. Diolch byth na gafodd Leo ei droi yn Llew na Theodorius yn Tewdwr. Rwy'n awyddus, felly, i wybod a yw ffurfiau Cymraeg ar rhai o'r enwau yma'n bod. On'd oedd traddodiad o ysgoloriaeth Cymraeg ar yr Eglwys Fore? Ham 21:49, 8 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno fod rhai o'r enwau ar y rhestr yn Gymreigiadau rhyfedd ac anghyfarwydd. Mae rhai o'r ffurfiau yn ddigon dilys, e.e. Boniffas (Boniface), ond mae rhai o'r lleill yn wirion (e.e. "Owain" am Eugenius, fel ti'n deud!). Bydd rhai i mi chwilio yn y Geiriadur Beiblaidd ac ambell lyfr hanes, ond y broblem ydy fod llawer o'r pabau hyn yn rhy anadnabyddus i fod a'i henwau mewn print yn y Gymraeg (mae'n debyg). Fy marn bersonol ydy y dylem ni ddefnyddio ffurfiau Cymraeg safonol, e.e. Ioan, Boniffas (gw. Hanes Cymru John Davies, er enghraifft), ond sticio gyda'r ffurfiau Lladin yn achos y lleill (beth bynnag ydyn nhw - mae rhai o'r ffurfiau "Cymraeg" mor od fel nad yw'n bosibl gweithio allan y Lladin wreiddiol!) Anatiomaros 22:32, 8 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Rwy wedi mynd ati i newid y mwyafrif o'r enwau yn ôl i'r ffurf Ladin. Rwy wedi ystyried y canlynol fel Cymreigiadau 'dilys': Pedr, Iŵl, Boniffas (diolch Anatiomaros!), Alecsander, Cystennin, Ioan, Bened, Grigor, Martin, Pawl, Steffan, Ffolant, Clement (Clemens yn y Lladin), Pïws a Ioan Pawl. Gobeithio nad yw fy nhrosi enw Valentinus (pab weddol anadnabyddus) i Ffolant yn or-Gymreigio; fy rhesymeg yw ei fod hi'n bosib gweithio'r ffurf Ladin allan o'r Gymraeg, yn wahanol iawn i achos Eugenius ac "Owain".
Newidiais i "Wrban" yn Urbanus ac "Innosent" yn Innocentius, ond am fod rhain yn enwau poblogaidd ar babau mae'n ddigon posib bod ffurfiau Cymraeg yn bod (fel yn achos Boniffas). Unwaith eto, hoffwn glywed gan unrhywun sy'n gwybod.
Yn bron pob achos rwy wedi newid diweddebau -ws i -us. Ond yn yr ychydig o achosion lle mae tudalennau ar gyfer y pabau wed'u creu, y diweddeb fwy Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio: Pab Sergiws I a Pab Honoriws II a'r pabau Pïws fwy diweddar. Rwy'n mynd i newid y ddau cyntaf, o leiaf, i -us. Sylwer nad oes unryw derfyniadau -ws ar y dudalen Rhestr Ymerodron Rhufeinig. Ham 13:22, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am y gwaith ar hyn. Mae'n edrych yn well o lawer. Mae'n bosibl bod 'na ffurfiau Cymraeg am rai o'r enwau Lladin hyn, ond dwi wedi methu cael hyd iddyn nhw hyd yn hyn. Anatiomaros 17:56, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

O'r diwedd, rwy wedi dod o hyd i ffurf Gymraeg draddodiadol ar un o'r enwau! O Brenhinoedd y Saeson:

Ddugwyl Damaseus Bab, yr unved dydd ar ddec o vis Ragfyr, duw Gwener. Ac yna y bwriwyd holl Gymry y'r llawr.

Dyma Damasus (I) yn y Lladin a'r Saesneg, a fu farw ar 11 Rhagfyr 384 (898 mlynedd cyn Llywelyn). Bu'r sant Sierôm yn ysgrifennydd ar gyfer y pab hwn. Mi af i ati nawr i ychwanegu'r ffurf at y dudalen hon ac erthygl Sierôm. Ham II (sgwrs) 19:01, 14 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Rwy newydd ddarganfod ar hap bod rhai o'r enwau hyn yn y Testament Newydd, rhywbeth na feddyliais i amdano pan soniais am yr Eglwys Fore 15 (!) mlynedd yn ôl. O ganlyn fe fydd fersiynau o'r enwau mewn unrhyw feibl Cymraeg. Rwy wedi edrych felly ar https://beibl.net i weld pa ffurfiau sydd yno, a'u nodi isod.
Enw Lladin Lleoliad beibl.net
Linus 2 Timotheus 4:21 Linus
Clemens Philippiaid 4:3 Clement
Urbanus Rhufeiniad 16:9 Wrbanus
Cornelius Actau 10:1–31 Cornelius
Lucius Actau 13:1; Rhufeiniaid 16:9 Lwcius
Dionysius Actau 17:34 Dionysiws
Felix Actau 23:24–26, 24:1–27 a 25:14 Ffelics
Sergius Actau 13:7 (fel Sergius Paulus) Sergiws (Pawlus)
Zacharias Luc 1 passim a 3:2 (anwybydder y proffwyd Sechareia) Sachareias
Wn i ddim os yw cyfieithiadau eraill yn defnyddio'r un ffurfiau, ac hoffwn gymharu gyda'r Beibl Cymraeg Newydd o leia cyn gwneud newidiadau i'r rhestr a theitlau erthyglau. Rhaid dweud nad yw ffurfiau beibl.net yn edrych yn arbennig o systematig i fy llygaid i, gyda chymysgedd o derfyniadau -us ac -ws, ac nid yw'n gwbwl glir sut mae ynganu'r enwau sy'n cynnwys w ac u ill dau, er enghraifft Wrbanus. Ham II (sgwrs) 11:46, 16 Rhagfyr 2023 (UTC)[ateb]