Sgwrs:Plaid Glyndŵr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pryd mae plaid wleidyddol yn blaid wleidyddol?[golygu cod]

O gwglo y blaid hon, dim ond gwefan ei hun ac un stori yn golwg360 am ffurfio'r blaid sy'n ymddangos. Un o amcanion y blaid ydy "Ymgeisio mewn etholiadau Cymuned, tref a Sir." Er mai pirin 12 mis sydd ers sefydlu'r blaid, a ydynt wedi cymryd rhan mewn unrhyw isetholiadau yn y cyfamser? Oes gan y blaid unrhyw aelodau tu hwnt i'r Cadeirydd? Mae'n gwestiwn gen i os ydy Plaid Glyndŵr yn haeddu erthygl (hyd yma).--Rhyswynne (sgwrs) 09:31, 14 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

Ti'n iawn; fe ddylai fod gennym fwy na'u gwefan nhw fel ffynhonnell. Be tasem yn rhoi 3 neu 4 mis i weld a oes ffynhonnell annibynol ddibynadwy? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:34, 14 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]
Wnes i ddim creu'r tudalen er mwyn hyrwyddo'r blaid newydd hon ac yn wir roedd gennyf fy amheuon amdani hefyd, ond ar y llaw arall dwi ddim yn gweld unrhyw reswm dros beidio cael erthygl amdani chwaith. Amser a ddengys (oes etholiadau lleol wedi bod ers ei sefydlu?). Os ydyw'n diflannu, fel cynifer o bleidiau bychain eraill, bydd yn amser i ystyried tynged yr erthygl, ond tan hynny dwi'n methu gweld unrhyw reswm yn erbyn ei chadw am rwan. Mae gan y wici S. erthyglau am bleidiau bychain iawn yn Lloegr - gweler en:Category:Political parties in England am enghreifftiau! - felly pam lai? Anatiomaros (sgwrs) 18:00, 14 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]
Rhoed amser i ni'n was... Llywelyn2000 (sgwrs) 18:49, 14 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]
O glicio ar erthyglau'r pleidiau bychain ar en:wp, mae pob un (o'r 5/6 gliciais i atnynt) wedi cystadlu mewn etholiadau. Oes mae sawl is-etholiadau ar lefel cyngor sir a chymuned wedi bod yn y 12 mis diwetha. O beth welais i doedd dim ymgeiswyr ganddynt ar gyfer Bronglais (CYngor Tref Aberystwyth), dwy ward ar Gyngor Sir Caerffili, a fyddan nhw chwaith ddim yn cystadlu mewn dwy isetholiad ar Gyngor Caerdydd mis nesaf. Wedi dweud hynny, mae'n dactegol peidio cystadlu mewn istheoliad, ond bydd dim etholiadau rwan tan 2016, felly os nad ydynt am gystadlu mewn etholiad cyn hynny, neu bod rhywbeth arwyddocaol yn digwydd gyda'r blaid (datganiad bod unigolion blaenllaw yn ymuno â nhw/ymgyrchu drostynt. Cytunaf dylid rhoi ychydig o amser iddynt. Cynnigaf 12 mis arall - tan Tachwedd 2104.--Rhyswynne (sgwrs) 11:30, 15 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:05, 15 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno hefyd. "Amser a ddengys"! Anatiomaros (sgwrs) 18:11, 15 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]