Sgwrs:Llygredd aer

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cyfeiriadau lluosog i rannau gwahaol o'r un wefan.[golygu cod]

Rwy'n ansicr am y drefn ynglŷn â chyfeiriadau lluosog i wahanol ddarnau o'r un wefan. Mae testynnau technegol safonol yn y Gymraeg yn weddol brin a hoffwn sicrhau ei ddefnydd. Yma 'rwyf wedi (7/7/17) cysylltu â sawl tudalen o’r un wefan am fathau gwahanol o lygredd awyr. Ar un lefel mae'n edrych yn wirion. Oni ddylai'r darllenydd fordwyo'r wefan (sy'n dda iawn) ei hun ? Eto i ddarllenydd Wici sydd â diddordeb arbennig - mae'r hyn sydd yma yn ei alluogi i fynd yn syth i lygad y ffynnon. Oes gan unrhyw un farn ar hyn ? --Deri (sgwrs) 17:00, 7 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

@Deri Tomos: - Haia Deri - a f'ymddiheuriadau cyn dod nol atat! Mae'n goblyn o brysur ar wici y dyddiau hyn! Fel yr awgrymi, gall un cyfeiriad at y wefan wneud y tro oni bai bod rhywbeth reit amheus neu ddadleuol yn cael ei ddweud yn yr erthygl. Un dull o wneud hyn yw rhoi mwy o bwysau ar y cyfeiriad, efallai, drwy frawddeg o dan y pennawd 'Cyfeiriadau' ee
Gyda llaw, dim ond mewn dolen allanol mae'n rhaid ychwanegu'r Nodyn eicon 'en gan fod yr url fel arfer yn nodi iaith y wefan.
Manion arddull wici ydy'r rhain - ac ar ddiwedd y dydd mae'r cynnwys yn llawer pwysicach.
Wedi dweud hyn, gan dy fod yn gofyn - mae na gyfarwyddiadau yn Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau) (gweler 'Cyfeiriadaeth aml-ddefnydd') a sgwennwyd gan Duncan Brown yn ddiweddar. Anaml iawn y byddaf yn defnyddio'r rhain, ond efallai y dylwn, yn enwedig pan fo hynny'n gymorth i'r darllenydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:38, 20 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Diolch. Mi geisiaf fanteisio ar beth sydd gan Duncan i ddweud. Diolch hefyd ar dy holl waith ar fy "man gyfraniadau" diweddar. Rwy'n ceisio cychwyn egwyddor o osod yn syth ar Wici yr hyn 'rwyf wedi'i ddysgu (gyda chyfeiriadau) pan gaf wahoddiad i gyfranni at Radio Cymru ag ati. Ofnaf fod eu cynnwys braidd yn stocastaidd ! Mae gennyf un cwestiwn am fformadu dyddiadau sy'n codi yn nhudalen Alfred Russel Wallace, na'i ddod yn ôl atat trwy sgwrs y tudalen os na fedraf ei ddatrys. Hwyl, --Deri (sgwrs) 15:08, 21 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]