Sgwrs:Llongddrylliad

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Stemar v agerlong[golygu cod]

Mae'r ddau enw yn cael eu cynnig gan Eiriadur yr Academi. Yn bersonol mae'n well gennyf i 'agerlong' ond wedyn mae stemar yn cael ei defnyddio mewn sawl erthygl yn barod (nid bod hynny wastad yn golygu ei fod yn iawn!). Fy nadl i fyddai nad yw o anghenraid yn mynd i fod yn amlwg mai Cymreigiad o Steamer yw stemar oni bai bod gennych rhyw fath o wybodaeth am hanes llongau, tra bod agerlong yn dweud wrthych yn syth sut long oedd hi. Yn amlwg fydd hyn ddim yn broblem pan sgwenith rhywun erthygl am y pwnc! --Rhyswynne (sgwrs) 10:49, 22 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Cytunaf â thi, Rhys.

2.24.110.112 11:17, 22 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Mewn ymateb i fy ymholiad ar Trydar, dyma farn Geiriadur Prifysgol Cymru (gweler y sgrinlun). Yn ail, 'Stemar' yw'r gair a nodir yng Ngeiriadur y Brifysgol, gyda 'Agerlong' yn ail tila. Yr un a ddefnyddiwyd ers cenedlaethau gan Gymry Cymraeg Naturiol ydy 'stemar' ac felly hefyd yng nghaneuon J Glyn Davies ee Stemar Mari Bifan. Pan gollwn ni'r hen eiriau yma, fe gyll y Gymraeg ei naturioldeb, ei gallu i esblygu a'i gwreiddiau. Ydech chi hefyd yn cynnig 'allbwff' yn hytrach na 'pheipen fwg'? - Llywelyn2000 (sgwrs) 18:43, 5 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Digon teg, doeddwn i ddim yn ymwybodol o hanes y gair, a'i hir ymsefydliad yn y Gymraeg; dylwn wedi edrych i mewn i'r mater, wrth gwrs. Ond na, o fewn rheswm yr ymdrinnir â'r fath bethau â geiriau 'safonol'. Ni ddwedwn i 'ufelai' yn lle 'ocsigen' pan fo bron pob iaith Ewropeaidd yn arddel 'ocsigen' neu addasiad ohoni. Ond gobeithiaf nad oes cerydd diangen yn y sylwad olaf; rydym oll yn cyfrannu er mwyn hwyluso'r lledaeniad o wybodaeth yn y Gymraeg, ac nid er mwyn cecru. Rhaid cyfaddef serch hynny, dylid ymwrthod â geiriau Saesneg pan fo eisioes gair Cymraeg naturiol. Ond mae stemar yn air Cymraeg, yn union fel mae 'ffrind' wedi ymsefydlu yn yr iaith.
PS- hoffwn ychwanegu fod trafodaethau megis yr un hon yn hynod gyffrous am eu bod yn dangos hoenusrwydd y Gymraeg. Ni cheid y fath drafodaeth ar iaith farw, bid siŵr!
95.150.74.96 19:25, 5 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Mae 'agerlong' yn hen ffasiwn iawn erbyn hyn. Ceir digon o enghreifftiau mewn hen lyfrau o'r 19eg ganrif ond rhywsut ni ddaeth yn enw byw ar lafar. Gresyn, efallai, ond y gair benthyg 'stemar' sy'n arferol ers tro byd. Anatiomaros (sgwrs) 00:49, 6 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]