Sgwrs:Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Llywelyn2000 Rhowch sylwadau ar yr erthygl hon. Deb (sgwrs) 11:06, 6 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]

Haia @Deb:. Llawer o gymhlethu'r ystyr - sawl brawddeg hir, gyda'r mynegiant yn anodd ei ddeall. hefyd:

  1. 'statutory law' = 'deddfau statudol' nid 'cyfraith gadarnhaol'. (gw.
  2. the composition and procedures of the Supreme Court were initially established by the 1st Congress through the Judiciary Act of 1789. = ac fe'i sefydlwyd i ddechrau gan y Gyngres Gyntaf trwy Ddeddf Barnwriaeth 1789. Mae'n dweud iddo gael ei sefydlu dwywaith, heb fanylu ar y gwahaniaeth, fel y gwna'r Saesneg. Dim ymgais i gyfieithu ' composition and procedures i 'gyfansoddiad a gweithdrefnau'.
  3. 'Deddf Barnwriaeth' - na, Deddf Barnwrol gan ddilyn y patyrwm 'judicial review' = 'adolygiad barnwrol'.
  4. Cyfieithir 'justice' (person) fel 'barnwr' on hefyd (yn anghywir yn yr achos yma) 'Ustus'. Cysondeb yn bwysig ac mae barnwr yn well term i swydd mor uchel o fewn y system gyfreithiol yfmi.
  5. 'ysgrifennu barn fel arall' - aneglur iawn.
  6. 'compromised' wedi'i gyfieithu yn 'perygl'.

Dw i'n gwneud llawer o gangymeriadau fy hun, ac mae'r cyfieithiad mewn mannau'n eitha da! Ond, ceisio symlhau'r mynegiant sy'n bwysig mewn erthyglau anodd fel hon: dweud y peth yn syml, neu mi eith y darllenydd at y fersiwn Saesneg.

Gobeithio fod hyn yn help. Dw i'n cytuno efo Craigysgafn yma na ddylai'r golygydd wenud dim mwy oni bai ei fod wedi cywiro'i waith yn gyntaf. Diolch, Deb! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 8 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]