Sgwrs:Eryri

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ond oes angen gwahaniaethu'n glir rhwng "Eryri" a "Parc Cenedlaethol Eryri"? Nid ydynt yr un peth. Mae Eryri yn hen enw ar ucheldir Arfon, ac yn bennaf ar y mynyddoedd a'r cymoedd o gwmpas Yr Wyddfa, tra bod y parc cenedlaethol yn greadigaeth ddiweddar, artiffisial braidd, sy'n ymestyn i dde Meirionydd - ardal nad yw'n perthyn yn uniongyrchol, nac yn ddaearyddol nac yn hanesyddol, i'r Eryri go iawn. Beth am greu tudalen newydd ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri a symud rhan o gynnwys y dudalen hon yno? Anatiomaros 18:21, 23 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Cytunaf. Fel tystiolaeth ychwanegol, tynnaf sylw at Urdd Gobaith Cymru, sydd wedi dynodi ardal daearyddol Arfon a Dwyfor at eu gilydd (neu Sir Gaernarfon ac eithrio Aberconwy) fel "Rhanbarth Eryri" ar gyfer eu trefniadau cystadlu. Hefyd defnyddiwyd yr enw gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005, a gynhaliwyd tu allan i ffiniau'r Parc Cenedlaethol, ac oedd y gweld ei dalgylch yn ymestyn at Ben Llŷn, ond heb fynd cyn belled â Meirionydd. D22 21:36, 23 Awst 2006 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi troi Parc Cenedlaethol Eryri yn ddechrau tudalen a rhoi'r deunydd am y Parc yno. Oes rhywun yn gwybod am ddiffiniad o ffiniau'r Eryri draddodiadol? Fu fuaswn i'n bersonol yn dweud Yr Wyddfa, y Glyderau, y Carneddau, Crib Nantlle a Moel Hebog, ond alla i ddim cael hyd i ddim byd "swyddogol". Rhion 17:25, 30 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Does 'na ddim diffiniad "swyddogol" fel petai, ond dwi'n meddwl buasai'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n nabod yr ardal a'i hanes yn cytuno'n fras â'ch diffiniad uchod. Pan feddyliaf am Eryri mae'n dechrau gyda llethrau'r Carneddau i'r gorllewin o Ddyffryn Conwy i'r dwyrain, yn ymestyn i'r de i Siabod a'r cylch ac ardal Beddgelert, ac yna'n ôl trwy ardal Moel Hebog a Chrib Nantlle i'r Glyderau. Mae'n ardal ddiwylliannol-ddaearyddol-hanesyddol unigryw sy'n cyfateb i galon hen deyrnas Gwynedd, ac mae'n haeddu cael ei choffau felly ('Arglwydd Eryri' oedd un o deitlau tywysogion Gwynedd - a doedd yr enw ddim yn cynnwys Meirionnydd!). Diolch am symud y deunydd am y parc i dudalen arall, Rhion: mae 'na wahaniaeth mawr rhwng y parc diweddar a'r fro draddodiadol, hyd yn oed os nad oes ffin bendant i'r olaf ar y map. Anatiomaros 20:29, 30 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Llwybr Pen-y-Gwryd[golygu cod]

Roeddwn ar ddeall mai tarddiad y "Pig track" oedd "PYG track", PYG yn sefyll am "Pen-y-Gwyryd". "Llwybr Pen-y-Gwryd" yw beth mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ei alw. D22 08:21, 19 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Eryri a'r Parc Cenedlaethol[golygu cod]

Dwi wedi adfer y dudalen Parc Cenedlaethol Eryri, a drowyd yn dudalen ailgyfeirio i'r adran amdano yn yr erthygl hon gan Delusion23 gyda'r esgus "no other Wikipedia has an article for both the region and National Park"! Wel, does affliw o ddim ots gennyf i os ydy wicis eraill, yn eu diniweidrwydd, yn dilyn y wici Saesneg yn eu hanwybodaeth druenus ond rydym ni'r Cymry Cymraeg yn gwybod yn amgenach, gobeithio: NID yr un peth ydy Eryri - ardal arbennig yn hanes a diwylliant Cymru ers gwawr ei hanes - a'r parc cenedlaethol a ffurfwyd megis ddoe ac sy'n cynnwys bron y cyfan o Feirionnydd, ardal na fu ERIOED yn rhan o'r Eryri go iawn. Anatiomaros (sgwrs) 01:10, 23 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]