Sgwrs:Eglwys Loegr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

A yw "Eglwys Loegr" yn gywir? Neu ai "Eglwys Lloegr" dylai fod? Mae Eglwys Loegr yn swnio'n od i fi... Er fod "eglwys" yn air benywaidd, a yw enwau gwledydd fod treiglo hefyd? Eglwys Gymru ynte Eglwys Cymru? Rhodri77 12:49, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Dw i bron 100% yn sicr mai Eglwys Lloegr ydy o i fod, am ddau reswm 1. Mae'n cyfeirio at y sefydliad nid adeilad, a 2. (a dyma lle dw i'n llai sicr fyth o'm pethau), mae 'Lloegr' yn enw yn hytrach na berf. --Ben Bore 14:05, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Yn ramadegol, 'Eglwys Lloegr' sy'n gywir, am fod yr eglwys honno 'ym meddiant' Lloegr, ond 'Eglwys Loegr' yw'r ffurf draddodiadol a dyna'r ffurf a ddefnyddir o hyd fel rheol (e.e. gan John Davies yn Hanes Cymru a nifer o lyfrau eraill). Ffurf hynafiaethol yw hyn, yn groes i'r drefn arferol, sydd i'w weld mewn sawl enw lle e.e. Ffynnon Daf (Taf), Rhyd Wilym (Gwilym). Hefyd 'Eglwys Rufain' yw'r enw traddodiadol am yr Eglwys Gatholig, nid 'Eglwys Rhufain'. Mae 'na adran dwi newydd ffeindio yn Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn Thomas (t. 323) sy'n trafod hyn ac yn rhoi nifer o enghreifftiau difyr. "Eglwys Loegr" sy'n iawn felly. Anatiomaros 16:13, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
"Dyfyniad Ffydd Eglwys Lloegr" medd Morris Kyffin yn 1594. "Yr Eglwys yn Lloegr" meddwn i'n reddfol (oherwydd "Yr Eglwys yng Nghymru" yn siwr o fod). Ai asoddair ydy Lloegr yma? Os felly, yna Eglwys Loegr, gair sy'n disgrifio "Eglwys". Ond os ydy Eglwys a Lloegr yn enwau (a dim un un yn ansoddair) yna Eglwys Lloegr (fel "Merch Dafydd" neu "ffôn llaw"). Mae'r Eglwys yng Nghymru'n cyfeirio at y corff estron hwn fel Eglwys yn Lloegr, a chwmni llyfrgellyddol The Library Thing (beth bynnag ydy hygrededd y rheiny ac felly Directgov a'r BBC. Fy hunan, does gen i ddim ots! Llywelyn2000 17:12, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
ON! Eglwys Loegr medd Geiriadur Prifysgol Cymru! A hefyd: (wrth gwrs!) yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Gatholig. Felly ansoddair ydyw ac nid enw. Da iawn rhen Anatiomaros. Llywelyn2000 17:45, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Ia, Eglwys Loegr yw'r ffurf draddodiadol, arferol (anwybodaeth ac ymseisnigeiddio sy'n gyfrifol am yr enghraifftiau o 'Eglwys Lloegr', mae'n debyg). 'Eglwys Loegr' sy gan Yr Eglwys yng Nghymru hefyd. Fel roeddwn i'n deud uchod, mae 'na sawl enghraift arall o'r eithriad hon i'r rheol yn llyfr Peter Wynn Thomas (Tyddewi ayyb). Anatiomaros 17:52, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Dilyn fy nolen uchod i wefan yr Eglwys yng Nghymru ac fe weli di eu bont yn defnyddio "Eglwys Lloegr" hefyd! Dynma i ti anghyson! Dwi'n meddwl fod hyn, yn y bôn, yn ymwneud a'r enw perthynol. Llywelyn2000 18:04, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Typical 'te! "Ceir eithriad i bob rheol" yw'r esboniad gorau am hyn. Enghraifft o'r hyn sy'n gallu digwydd, yn hanesyddol, pan fo "enw priod yn dilyn enw priod benywaidd unigol yn oleddfydd" yw hyn, yn ôl y gramadegydd. Eithriadau hir-sefydlog i'r drefn ramadegol arferol. Ceir nifer fawr iawn o enghreifftiau mewn enwau lleoedd, yn achos dau enw ar wahân e.e. Ynys Bŷr (Sant Pŷr) ac mewn enwau cyfansawdd, e.e. Caerfyrddin (caer + Myrddin), Llandudno (Sant Tudno). Mae'r term 'Eglwys Loegr' yn perthyn i ddosbarth arbennig o dermau crefyddol: Eglwys Loegr, Eglwys Rufain, 'teyrnas Dduw' ayyb. Gwelir hyn hefyd yn enwau'r gwyliau eglwysig, e.e. Gŵyl Ddewi, Gŵyl Fair, Gŵyl Fihangel, lle byddai rheolau gramadeg rheolaidd yn rhoi 'Gŵyl Mihangel' ayyb. Termau ac enwau unigryw yw'r rhain, wrth gwrs, a does neb yn awgrymu fod termau modern i'w trin yr un modd. [Diwedd y wers ramadeg!]. Anatiomaros 19:04, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n difaru gofyn nawr!!Hehee! 'Dyw gramadeg erioed wedi bod yn un o'm cryfderau ond diolch i chi gyd am esbonio i Gramada-phobe fel fi! Rhodri77 19:10, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Roedd yn gwestiwn teg ac mi roddodd esgus i mi chwilio am yr esboniad am rywbeth dwi wastad wedi derbyn ond heb feddwl lawer amdano: felly diolch i ti, Rhodri! Anatiomaros 19:36, 27 Awst 2009 (UTC)[ateb]