Sgwrs:Diwydiant llechi Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Sylwadau ar y ffeithiau[golygu cod y dudalen]

Twf ym Mlaenau Ffestiniog[golygu cod y dudalen]

Yn ôl Slate and Slatemen of Llechwedd gan Ivor Wynne Jones (1975, Quarry Tours Ltd) yn 1849 y darganfuwyd yr Hen Wythien. Yn 1846 y cymerodd J.W. Greaves y les ar y tir yn ôl Jones a Burn ill dau.

Dechreuadau[golygu cod y dudalen]

Yn ôl Lindsay rwyn credu mai '...gofnodir i nifer o denantiaid Gwilym ap Gruffudd dalu 10 ceiniog yr un am weithio 5,000 o lechi.' y dylai fod.

Wyt ti'n cytuno, Rhion? Lloffiwr 18:44, 17 Medi 2007 (UTC)

Fuasai gen i ddim problem gyda'r newidiadau. Mae'r frawddeg gan Lindsay braidd yn amwys (gallai "paid" weithio dwy ffordd), ond mae'n debyg mai i'r tenantiaid dalu am y llechi yw'r mwyaf tebygol. Rhion 07:22, 18 Medi 2007 (UTC)

Iawn, wedi mentro arni. Lloffiwr 21:39, 22 Medi 2007 (UTC)

Ehangu?[golygu cod y dudalen]

Wrth gwirio'r ffeithiau gyda'r ffynonellau fe ddes ar draws ambell beth lle yr oeddwn yn meddwl y byddai ehangu rhywfaint yn egluro ystyr yr erthygl yn llawnach. Dyma'r cynigion ar ehangu:

  • Dechreuadau. Beth am ychwanegu paragraff neu ddau newydd yn yr adran hon yn egluro rhywfaint am y gwahaniaeth yn ansawdd, lliw a rhinweddau'r gwahanol lechfaen a'i gymhwysau at wahanol ddibenion? (ac sy'n golygu bod galw am lechfaen o Gymru o hyd?) Rwyn credu mai yn Williams (t10) y ces eglurhad o sut oedd ongl y graig i wyneb i tir yn penderfynu ai chwarel, pwll tanddaearol ynteu pwll agored (dim ond un o'r rhain oedd yng Nghymru ac rwyf wedi colli'r nodyn o ba un oedd!) oedd yn addas. Hefyd y rhesymau cyffredinol am dwf y diwydiant: gwelliannau mewn trafnidiaeth (gan fod pris cario llechi yn fwy na phris eu cynhyrchu) a'r galw am lechi yn cynnyddu adeg y Chwyldro Diwydiannol.
  • Dechreuadau para. 4. 'Gellid cynhyrchu llechi’r Cilgwyn yn rhatach a’u gwerthu am bris uwch.' Mae peth o'r eglurhad am hyn o dan y llun o Chwarel y Cilgwyn. 'Gan fod y chwarel ar dir y Goron, nid oedd y chwarelwyr yn gorfod talu dim i feistr tir.' Beth am dynnu'r eglurhad o waelod y llun a rhoi rhywbeth tebyg i hyn cyn y frawddeg uchod: 'Nid oedd chwarelwyr y Cilgwyn yn gorfod talu breindaliad i neb, gan mai ar dir y goron y gweithient, a chynrychiolwyr y Goron yn esgeuluso casglu breindaliadau gan y chwarelwyr.' Hefyd beth am ehangu ychydig eto fel hyn: 'Gellid torri llechi'r Cilgwyn yn denau iawn ac felly roeddent yn ysgafnach na llechi'r Penrhyn. Golygai hyn y gellid cynhyrchu llechi’r Cilgwyn yn rhatach, a’u gwerthu am bris uwch.'
  • Dechreuadau para. 4. Beth am ychwanegu (10" x 5") ar ôl "Singles"?
  • Rhagor i ddod! Lloffiwr 12:31, 18 Tachwedd 2007 (UTC)
Swnio'n iawn i mi. Rhion 12:48, 18 Tachwedd 2007 (UTC)

Iawn - ymlaen a ni!

  • Twf y diwydiant para. 2. 'terasau mawr o 9 medr hyd 21 medr o ddyfnder', un uwchben y llall ar ochr y mynydd, fel yn y llun isod o chwarel y Penrhyn.
  • Mecaneiddio a thwf y cynnyrch para. 1. 'i gario llechi o Chwarel Bryneglwys uwchben Abergynolwyn' i Dywyn.
  • Mecaneiddio a thwf y cynnyrch para. 2. 'Datblygodd y felin lechi rhwng 1840 a 1860, gyda phŵer o un ffynhonell yn cael ei drosglwyddo ar hyd un siafft hir yn rhedeg ar hyd yr adeilad, gan gyfuno nifer o brosesau dan un to.'[1] Dŵr oedd prif ffynhonell pŵer ar ddechrau'r diwydiant ac yna ager. Y peiriant ager cyntaf i'w ddefnyddio yn y diwydiant llechi oedd y pwmp a osodwyd yn Chwarel Hafodlas, Dyffryn Nantlle yn 1807. [2]
  • Chwarelwyr para. 1. 'Gweithiau eraill, mewn criwiau o dri fel rheol, i gael gwared o graig nad oedd yn addas ar gyfer llechi neu i gael gwared o’r sbwriel llechfaen, ac eraill eto i adeiladu’r tomennydd sy’n nodwedd mor amlwg o ardaloedd y chwareli. [3] Gallai cynhyrchu un dunnell o lechi gynhyrchu hyd at 30 tunnell o sbwriel.' Telid gweithwyr eraill, megis y gofaint, wrth y diwrnod.
  • Chwarelwyr para. 2. 'Oherwydd hyn, telid swm ychwanegol iddynt am bob gwerth punt o lechi a gynhyrchid.' Po waelaf y tybid y byddai'r graig po fwyaf oedd cyfradd y tâl.
  • Diwedd cynhyrchu ar Raddfa Fawr para. 1. Oes gwerth ehangu ar ddiwedd y paragraff bod prinder gweithwyr yn ystod ac wedi'r ail ryfel byd yn gorfodi rhai chwareli i gau. Er bod chwarelwyr ymhlith y rhai a gaent flaenoriaeth wrth eu rhyddhau o'r lluoedd arfog dewisai llawer o'r cyn-chwarelwyr swyddi oedd yn talu'n well ac yn llai o faich na'r chwareli. [4]
  • Diwedd cynhyrchu ar Raddfa Fawr para. 2. 'Yn 1979, wedi brwydr hir, cytunodd y llywodraeth fod silicosis yn glefyd diwydiannol a bod iawndal yn ddyledus i’r dioddefwyr. [5]' Beth am ychwanegu a'i wneud yn baragraff ar wahan: Ond y cyflogwyr oedd yn gyfrifol am dalu'r iawndal. Busnesau ac nid y llywodraeth sydd yn berchen ar y gweithfeydd llechi. Nid oes gan y cyn-chwarelwyr a fu'n gweithio mewn chwareli oedd wedi cau neb y gallent hawlio iawndal oddi arnynt. O'r rhaglen ar S4C 'Clefyd y Llwch' y ces i hwn - yn anffodus does gen i ddim nodyn o'r cynhyrchwyr na'r dyddiad. - Dyw hwn ddim yn iawn gennyf. Mae modd hawlio iawndal oddi wrth y llywodraeth os yw'r cyn-gyflogwr wedi peidio â masnachu. Gadael yr erthygl fel ag y mae yw'r peth gorau ar hyn o bryd. Gellid ehangu ar broblemau iechyd a chymdeithasol, yr undebau, yr ysbytai arbenigol, ag ati, mewn erthygl arall (neu sawl un!), pan fydd rhywun yn barod i wneud.
  1. Williams tt. 15-16
  2. Williams t. 16
  3. Jones t. 73
  4. Richards tt. 183-4
  5. Williams t. 30

Lloffiwr 13:43, 18 Tachwedd 2007 (UTC)

Arddull[golygu cod y dudalen]

Mae ambell i beth yr hoffwn sylwi arno sy'n ymwneud ag arddull. Efallai mai gwahaniaeth tafodieithol yw gwraidd rhai o'r sylwadau, neu arfer personol yn unig.

  • Dechreuadau para. 1. y frawddeg olaf: byddwn i'n dweud 'yn nyffryn Dyfrdwy' yn hytrach nag 'yn nyffryn Afon Dyfrdwy'.
  • Dechreuadau para. 2. y gwreiddiol - 'ac mae cofnod fod llechi o’r chwarel yma wedi eu defnyddio i adeiladu Plas Aberllefenni.' Beth am 'a chofnodwyd ar ddechrau'r 16eg ganrif fod llechi o’r chwarel yma wedi eu defnyddio i adeiladu Plas Aberllefenni.
  • Dechreuadau para. 3. Byddwn i'n dweud 'Cyfansoddodd Guto'r Glyn gerdd...' yn hytrach na 'Mae cerdd gan Guto'r Glyn...'
  • Dechreuadau para. 3. A fyddai'n cael gwared ar amwyster ystyr i symud 'Ar waelod afon Menai' i ddechrau'r frawddeg?
  • Dechreuadau para. 3. ar gefn ceffyl yw'r ymadrodd rwy'n gyfarwydd ag e yn hytrach nag ar gefnau ceffylau.
  • Dechreuadau para. 3. 'Cofnodir allforion llechi o Ystad y Penrhyn o 1713, pan yrrwyd 14 llwyth, cyfanswm o 415,000 o lechi, i ddinas Dulyn.' Ydy hi'n eglurach i ddweud: Cofnodir allforion llechi o Ystad y Penrhyn cyn gynhared â 1713. Y flwyddyn honno gyrrwyd 14 llwyth, cyfanswm o 415,000 o lechi, i ddinas Dulyn.
  • Lleihad yn y cynnyrch para. 3. beth am roi clefyd y llwch yn hytrach na silicosis?
  • Diwydiant llechi Cymru heddiw para. 2. Ydy 'clyweled' yn llai trwsgl na 'clyweledol'?

mater cyfoes[golygu cod y dudalen]

yn yr adran 'Diwydiant llechi Cymru heddiw' ydy hi'n werth ychwanegu (yn 2007) ar ddechrau'r 3ydd paragraff (neu rhywle arall o ran hynny)? Petai rhywbeth yn newid a bod neb yn cofio newid y testun o leiaf byddai'n glir i'r darllenydd mai dyna oedd y sefyllfa yn 2007. Oes rhywbeth angen ei ddiwygio'n barod o ran hynny? Lloffiwr 15:15, 18 Tachwedd 2007 (UTC)

Y ffeithiau eto[golygu cod y dudalen]

Yn yr adran ar dwf y diwydiant dywedir 'Yn 1782, prynwyd hawliau’r chwarelwyr ar ei stad, a phenododd Pennant asiant newydd, James Greenfield.' Yn ôl Porthmadog Ships ar t. 92 roedd Greenfield yn reolwr y chwarel o 1799-1825. Ai William Williams oedd asiant y stad hyd at ei farw? Lloffiwr 15:21, 18 Tachwedd 2007 (UTC)

Mi geisiaf gael mwy o wybodaeth ar hyn - alla i ddim cofio o ble daeth yr wynodaeth am Greenfield. Am y gweddill, rwy'n credu y gelli eu rhoi i mewn yn yr erthygl. Rhion 17:25, 18 Tachwedd 2007 (UTC)

Drafft o baragraffau ychwanegol[golygu cod y dudalen]

Rwyf wedi drafftio paragraffau newydd i'w rhoi ar ôl y paragraff cyntaf yn yr adran 'Dechreuadau' ac mewn adran newydd gyda'r teitl 'Natur llechfaen Cymru'.

Natur llechfaen Cymru

Natur llechfaen sy'n ei wneud yn ddefnyddiol, yn bennaf wrth adeiladu. Gan fod natur ac ansawdd y graig yn gwahaniaethu o ardal i ardal byddai chwareli arbennig yn arbenigo mewn cynnyrch gwahanol. Ansawdd da llechi Gogledd Cymru, yn ogystal â medrusrwydd wrth drafod y graig a'r gallu i gynhyrchu ar raddfa fawr, a'u bod yn gymharol agos at y môr, a olygai y byddai galw am lechi Gogledd Cymru dros y byd i gyd erbyn canol y 19eg ganrif.

  • Ar y cyfan llechfaen o'r Oes Gambriaidd yw'r llechfaen gorau. Ond mae llechfaen o'r Oes Ordoficaidd yn llai brau na llechfaen o'r Oes Gambriaidd. Oherwydd hyn mae'n haws trin craig Ordoficaidd â pheiriannau na chraig Cambriaidd. Golygai hyn y byddai mecaneiddio yn chwareli Blaenau Ffestiniog yn talu'n well nag yn Arfon. [1]
  • Mae cyfeiriad pileriad llechfaen a chyfeiriad yr wythien yn gwahaniaethu o wythien i wythien. Yn wahanol i lechfaen Ffestiniog, lle roedd y cyfeiriad pileri yn groes i gyfeiriad yr wythien, roedd y cyfeiriad pileri yn gyfochrog â chyfeiriad yr wythien yn Chwarel Ceunant Parc. Oherwydd hyn roeddynt yn gallu arbenigo mewn cynhyrchu cribau hir yn Chwarel Ceunant Parc. [2]
  • Mae cyfartaledd sylffwr yn y llechfaen yn effeithio ar ba mor dda mae llechfaen yn gallu cario trydan. Pan oedd llechfaen yn cael ei ddefnyddio fel ynysydd trydan rhaid oedd dewis y llechfaen â'r lefel sylffwr isaf posibl at a perwyl hwn.

Yr ongl rhwng gwely'r llechfaen a gwyneb y tir fyddai'n pennu'r dull o gloddio'r graig. [3] [4]Pan fod yr ongl rhwng gwythien y llechfaen ac ochr y mynydd yn fas yna mewn chwareli agored y cloddir, megis yn y Penrhyn ac yn Ninorwig. Os yw gwythien y llechfaen yn oleddu yn agos at yn syth am lawr i'r ddaear yna cloddio twll dwfn agored sydd orau megis yn chwareli Dorothea a Phenyrorsedd. Pan fo'r wythien yn oleddu i mewn i'r tir yna roedd gormod a bridd a chraig i'w symud cyn dod at y llechfaen i wneud elw wrth ei gloddio mewn chwarel new bwll agored. Rhaid oedd dilyn yr wythien a thyllu pyllau tanddaearol megis yn Llechwedd a Bryneglwys. Mae gwythien y Faen Gul ym Mryneglwys yn gorwedd rhwng 50-60° â'r llorwedd. [5] Byddai rhai o'r gweithiau'n cyfuno'r dulliau yma o gloddio yn ôl y galw. Mae'r hen byllau tanddaearol, megis y rhai o gwmpas Chwarel Oakley sy'n dal i weithio heddiw yn cael eu gweithio fel pyllau agored erbyn hyn.

  1. Williams t.16
  2. Owen t.34
  3. amryw awduron, t.50
  4. Gweler diagram ar waelod y dudalen Llechfaen-Ffurfiant y garreg las ar Lechwefan - adalwyd ar 2 Rhagfyr 2007
  5. Holmes, t.40

Llyfryddiaeth

  • Owen, Bob. 1943. Diwydiannau Coll Ardal y Ddwy Afon – Dwyryd a Glaslyn. Gwasg y Brython ar gyfer Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Elli di Rhion fwrw golwg dros hwn a rhoi dy farn arno? Lloffiwr 18:25, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)

Mae'n edrych yn ychwanegaid defnyddiol at yr erthygl. Efallai y byddai'n werth egluro ymhle mae Chwarel Ceunant Parc, gan nad oes cyferiad ati yn unman arall yn yr erthygl. Rhion 18:42, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)

Iawn. Rwyf hefyd wedi drafftio brawddeg i'w roi ar ddechrau'r adran ar Dwf y Diwydiant, fel a ganlyn:

Twf enfawr yn y galw am lechi to yn sgil y Chwyldro Diwydiannol oedd y sbardun i ehangu'r diwydiant llechi.

Optional extra byddai ychwanegu at y frawddeg hon y canlynol:

Dros y ganrif nesaf byddai twf yn y cyfalaf a fuddsoddwyd yn y chwareli (gan gynnwys cyfalaf o'r tu allan i Gymru) a newidiadau yn y modd y trefnwyd y gwaith yn golygu eu bod yn gallu cynhyrchu ar raddfa llawer yn fwy nag o'r blaen. At hyn byddai dyfeisiadau newydd a datblygiadau yn y modd o gludo nwyddau trymion at y defnyddwyr yn galluogi'r diwydiant i ffynnu.

Heblaw am y frawddeg gyntaf rwyt wedi sôn am y pethau hyn man hyn a man draw yn yr erthygl: dyna pam mae'n optional extra i'w crynhoi fan hyn. Beth wyt ti'n meddwl? Lloffiwr 19:02, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)

Rwy'n meddwl y byddai'n werth rhoi'r frawddeg i mewn. Rhion 19:44, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)

Rhestr chwareli llechi Cymru[golygu cod y dudalen]

Beth am greu rhestr o chwareli llechi Cymru? Gallem gynhyrchu tabl falle gyda'r gwybodaeth canlynol:

  • Enw'r chwarel
  • Enw'r plwyf neu'r ardal
  • Y cyfeirnod grid?
  • Y cyfnod y bu ar agor
  • Nifer y gweithwyr
  • Amcangyfrif o'r cynnyrch blynyddol

Gallem rannu'r tabl yn adrannau yn ôl ardal. Petai dim ond peth o'r wybodaeth ar gael byddem yn gadael y blychau eraill yn wag. Tyfu'n araf y byddai'r tabl mae'n debyg. Gan nad oes gan yr un o'r gwefannau y gwn amdanynt dabl o'r fath byddai'n gyfraniad gwahanol ar ran Wicipedia. Lloffiwr 19:15, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)

Syniad da. Efallai y gellid eu rhannu yn ôl ardal: ardal Bethesda, ardal Llanberis, Dyffryn Nantlle, ardal Blaenau Ffestiniog ac ati. Wrth gwrs fe allai nifer y gweithwyr a'r cynnyrch blynyddol amrywio'n fawr dros y blynyddoedd. Efallai y nifer fwyaf o weithwyr a gofnodir? Rhion 19:37, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)
Iawn. Am y cyntaf i fwrw ati fydd hi rwyn credu oherwydd rwyn eithaf prysur yn y gwaith ar hyn o bryd ac yn dal i fod yn palu trwy'r negeseuon ar wicipedia yn cyfieithu neu'n adolygu fel bod angen. Lloffiwr 19:47, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)
Rwyf wedi dechrau rhyw fymryn (Chwareli llechi Cymru) i gael gweld sut mae pethau'n mynd. Fe gaiff dyfu'n raddol. Rhion 13:35, 3 Rhagfyr 2007 (UTC)
Mae'r rhestr yn edrych yn dda. Lloffiwr 14:05, 3 Rhagfyr 2007 (UTC)

Erthygl dethol?[golygu cod y dudalen]

Mae'r ffeithiau yn yr erthygl wedi eu gwirio i'r ffynonellau ac mae'r copi wedi ei olygu. Oes na rywrai yn fodlon bwrw golwg dros yr erthygl a chefnogi'r cynnig (neu ei wrthwynebi) y dylai'r erthygl gael statws erthygl dethol? Lloffiwr 20:49, 2 Rhagfyr 2007 (UTC)

Efallai y byddai'n well rhoi nodyn yn y Caffi? Wn i ddim faint sy'n cadw golwg ar yr erthygl. Rhion 22:12, 3 Rhagfyr 2007 (UTC)
Mae'r gwaith a wnaethpwyd ar yr erthygl hon yn cyfiawnhau ei gwneud yn erthygl dethol yn fy marn i Dyfrig 23:27, 25 Rhagfyr 2007 (UTC)
Wedi ei roi gyda'r erthyglau dethol. Lloffiwr 20:22, 26 Rhagfyr 2007 (UTC)