Sgwrs:Carnedd lwyfan Craig y Llyn Mawr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Craig y Llyn Mawr)

Pwynt[golygu cod]

1. Mae'r map OS yn dangos dwy garnedd gyda'i gilydd (cairns ar y map OS).

2. Enw topolegol ydy Craig y Llyn Mawr (ger Llyn Mawr), nid enw'r heneb(ion).

Angen diwygio hyn felly. Anatiomaros 17:14, 15 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Ceir llun o'r llyn a'r graig ar Gomin. Mae'r llyn a'r tir o'i gwmpas yn warchodfa natur ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac felly'n haeddu erthygl. Dwi ddim yn gwybod os ydy'r henebion - a'r Graig - yn rhan o'r safle hwnnw fel y cyfryw. Dim yn siwr am enw swyddogol y safle ar hyn o bryd chwaith ond mae'n siwr ei fod ar gael rywle. Beth am gael un erthygl am y cyfan gan ddefnyddio'r llun del ar Gomin? Anatiomaros 18:47, 15 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

ON Llyn Mawr (G.N. Llyn Mawr) yw enw'r warchodfa natur. Ceir maen hir ger glan ddwyreiniol y llyn hefyd. Dwi'n awgrymu symud hyn i Llyn Mawr a chael erthygl am y llyn a'r tair heneb sydd o fewn tafliad carreg iddi. Gwnaf hynny yn nes ymlaen os wyt ti'n cytuno, Llywelyn. Anatiomaros 18:57, 15 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Pa hwyl? Mae'r enwau dw i wedi'u defnyddio (fel mae'r cyfeiriadau'n eu dangos ar wefan Cadw) yn enwau SAM. Dw i wedi ceisio glynnu'n agos iawn at y rheiny gan ychwanegu "Carnedd..." o'i flaen. Ond, ar ol plwc o wneud hyn, mi welais dy fod yn cywiro'r enw gan naill ai roi'r disgrifiad "carnedd" mewn cromfachau ar ol enw'r lle (fel sy'n arferol ar Wici), neu ei hepgor yn gyfangwbwl gan roi enw'r lle'n unig. Y drwg, wedyn ydy ein bod yn ymbellhau o'r enw a gofrestrwyd. e.e. mae "Carnedd gron Llyn Blebynnag" naill ai wedi cael ei newid yn "Llyn Blebynnag (carnedd)" neu'n "Llyn Blebynnag".
Mae'r hyn rwyt ti'n ei ddweud am uno sawl heneb yn synhwyrol. Gallwn eu galw, wedyn yn "Henebion Llyn Blebynnag"; dim problem. Ond am hebion unigol, weithiau mae'n bwysig ein bod yn galw'r heneb yn "Heneb Llyn Blebynnag" - dyna ei enw SAM, a dyna ei enw ar lafar, ddyliwn i.
I ddychwelyd at dy nghraifft di, enw swyddogol (SAM) Cadw (etc) ydy "Craig y Llyn Mawr platform cairn and standing stone". Mae angen rhan os nad y cyfan yn enw'r erthygl e.e. "Henebion Llyn Mawr" neu "Carnedd a Maen Hir Llyn Mawr". Llywelyn2000 23:09, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl bydd rhaid ystyried pob enw o'r fath fel achos unigol, h.y. does dim ateb syml. Dwi ddim yn siwr fod enwau Cadw yn "swyddogol" fel y cyfryw. Mae enghraifft 'Llety'r Filiast' yn awgrymu eu bod yn nodi lleoliad yr heneb yn unig wrth ei galw - yn yr achos yna - yn 'Siambr gladdu Llandudno' (neu beth bynnag oedd yr enw cyn i mi symud yr erthygl). 'Llety'r Filiast' ydy'r enw yn y llyfrau archaeoleg hefyd, e.e. llyfr Houlder. Felly dydy'r ffaith fod Cadw yn rhestru heneb fel 'Gorsedd Brân ddim yn newid y ffaith mai enw bryn ydy 'Gorsedd Brân', nid enw'r heneb (hefyd, ceir dwy garnedd arall ar y bryn - be sy gan Cadw fel enwau'r rheiny, tybed?). Yn yr un modd llynnoed ydy Llyn Eiddew Bach a Llyn y Wrach, fel sy'n amlwg. Mae dy engrhaifft "Craig y Llyn Mawr platform cairn and standing stone" yn gwneud synnwyr ond dydy cyfeirio at Graig y Llyn Mawr fel "carnedd lwyfan" ddim, a dyna'r broblem. Anatiomaros 23:23, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno. Cymer olwg ar y croesau. Dw i ddim yn meddwl fod y broblem yn digwydd yma; ond fe gwyd ei ben rywdro eto dw i'n siwr, ac fel y dywedi - rhaid ystyried pob enw o'r fath fel achos unigol. Llywelyn2000 23:31, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Ydy, mae hi'n siapio, ond drapia Cadw!
Ynglŷn â'r croesau, ar ôl cipolwg yn unig. Mae gennym erthyglau am rai o'r eglwysi hyn. e.e. Priordy Penmon ac Abaty Ystrad Fflur. Os wyt ti'n meddwl fod digon i'w ddeud am y croesau eu hunain, popeth yn iawn. Fel arall gellid eu cynnwys fel paragraff yn yr erthygl. Hefyd dwi'n gweld "Cymraeg" Cadw yn yr enw 'Croes Llanmihangel' (Llanfihangel y dylai fod, wrth gwrs). Dylai "Llanthewy-Rhytherch" (lol!) fod yn 'Llanddewi Rhydderch', dwi'n meddwl. Sawl engrhaifft arall hefyd. Hefyd: "Croes Llangan, Llangan, Bro Morgannwg + Croes Geltaidd Llangan, Llangan, Bro Morgannwg, "Croes Eglwys Llangrallo, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr (sir) + Croes Geltaidd Eglwys Llangrallo, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr (sir)" - oni fyddai'n syniad cyfuno'r rhain, e.e. 'Croesau Eglwysig Llangrallo'? Anatiomaros 23:40, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Fedri di gywiro rhain tra mod i'n paratoi templad? Yr erthygl demplad fydd Penmon; er mai sgerbwd fydd o i gychwyn, buan y daw cig o Coflein ayb. Os gei di amser i gywiro hwnnw cyn noswylio mi wna i fwrw ymlaen wedyn. Llywelyn2000 23:44, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Iawn, mi dria fy ngorau. Dwi ddim mor gyfarwydd ag y dyla i fod ag enwau lleoedd yn y De felly my gymrith beth amser. A chyfuno'r rhai fel Llangrallo hefyd, ie? Anatiomaros 23:49, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Ai un lleoliad sydd i'r rhain?
Anatiomaros 23:52, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Wedi'i newid. Diolch. Llywelyn2000 23:58, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]