Sgwrs:Corhwyaden Ynys Auckland

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rhestr o Wicidata[golygu cod]

@Craigysgafn: mae'r rhestr sy'n cychwyn {{Wikidata list... ac yn gorffen gyda {{Wikidata lists end}} yn tynnu llif o wybodaeth byw o Wicidata. Y lle i gywiro unrhyw beth yn y rhestr hon yw ar Wicidata. Fe dda bot Listeria fin nos fel llanw'r mor a glanhau ol traed y testun os wyt yn ei newid ar Wicipedia! Wicidata amdani! ON Cofia fod enwau'r rhywogaethau a'u tacson wedi ei safoni gan Gymdeithas Edward Llwyd, a'r gronfa ddata honno a ddefnyddiais i greu'r holl erthyglau ar y rhywogaethau, cyn ei basio ymlaen i Cell Danwydd. Ond dw i'n gweld fod nhw'n defnyddio'r fersiwn 'Gŵydd dalcenwen' hefyd. Gall @Duncan Brown: ddweud pa un yw'r enw safonol. OON Yn sicr llythyren bach sydd ei hangen yn yr ail / 3ydd gair. Hwyl a diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:22, 11 Awst 2022 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000: Dyma beth fyddwn i wedi'i ddisgwyl. Ond nid gan Wicidata yn unig y mae'r rhestrau hyn yn cael eu gwybodaeth, oherwydd fod rhai o'r enwau yn cael eu dilyn gan aliasau, e.e. [[Gŵydd droedbinc|Gŵydd Droedbinc]], a dydyn nhw'n dod o Wicidata. Neu ydyn nhw?
Rwyf wedi bod yn ceisio parchu datganiadau Cymdeithas Edward Llwyd, ond teimlais mai'r peth cyntaf i'w wneud oedd cael rhyw fath o gysondeb ar draws yr enwau rhywogaeth, ac wedyn byddai'n hawdd ei drwsio petaswn i wedi camu dros y marc yn rhywle. Nid ar chwarae bach yr es i ati! Ond cyn imi ddechrau doedd gen i ddim syniad pa mor flêr oedd pethau. Does neb ar fai. Dyna beth sy'n digwydd dros gyfnod hir o dyfiant. Mae'r math hwn o waith cynnal a chadw yn ddiflas dros ben, ond rwy'n credu y bydd yn dwyn ffrwyth yn y tymor hir. Hwyl! --Craigysgafn (sgwrs) 17:46, 11 Awst 2022 (UTC)[ateb]
Mae dy olygiadau ar yr yr erthyglau i'w gweld yn dilyn patrwm WP, sef llythyren fach yn yr ail / 3ydd gair. Ond mae'r Rhestr Wicidata'n dod o'r label sydd ar WD yn unig, ac nid o'r arallenw/au. Mae na lawer o gangyms yn yr erthyglau sy'n mynd nol CYN amser Wicidata ee [[Gŵydd droedbinc]] - erthygl a gychwynwyd gan Poriws 1 ar 31 Ionawr 2006‎ , ac yno, mae'r golyg. wedi defnyddio llythyren fawr, gan gopio'r enw Saesneg (ar y pryd), sef Pink-footed Goose. Ar 30 Tachwedd 2012 crewyd yr eitem ar Wicidata, drwy gynaeafu enw pob erthygl ar WP (gan gynnwys cy ac en), fel y gwelir yma. Pan grewyd y prosiect rhywogaethau ar y cyd gyda Chymd. Edward Llwyd, crewyd tua 9,000 o erthyglau adar newydd, wedi eu sylfaenu ar restr pwyllgor safoni enwau C.E.Ll., gyda Davyth (Defnyddiwr:Brwynog) yn gadeirydd y pwyllgor hwnnw. Be NA wnaethom (Cell Danwydd a fi), yn anffodus, oedd cywiro'r erthyglau oedd eisioes yn bodoli (ee troi 'Gŵydd Droedbinc' yn 'Gŵydd droedbinc'! Be sy'n dda am wici ydy bod hyn i gyd i'w gweld yn hanes yr erthyglau, a stamp amser ar bopeth i achifwyr y dyfodol weld y newidiadau ym mhob erthygl.
Os deui ar draws unrhyw beth y credi y gellid ei newid gyda bot, plis rho wybod, i mi gywiro fy mhechodau! O ran pa air ddylem ei ddefnyddio ar Wici, pan fo mwy nag un enw, yna rydym wedi derbyn fersiwn CELl o'r dechrau. A gallem drafod unrhyw newid / awgrymiadau efo nhw, fel rydym wedi gwneud drwy ebyst yn y gorffennol. Gobeithio mod i heb dy ddiflasu, ond mae'n rhoi rhyw syniad o sut rydan ni wedi cyrraedd fama, heddiw! Diolch eto am dy waith diflino! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 12 Awst 2022 (UTC)[ateb]
Problem arall yw pa mor gyfoes ydi'r rhestr greuwyd gan gweithgor Cymdeithas Edward Llwyd. Pan wnaethom gychwyn ar y gwaith yn y 90au, mi wnaethom ddefnyddio rhestr mewn lyfr oedd yn dyddio i'r 80au hwyr, ac mae llawer o 'lympio' a 'splitio' wedi digwydd ers hynny. Gwaith anferth ydi diwygio rhestr o 10,000 a adar, ac er bod rhestr cyfoes yn bodoli rwan ( https://www.worldbirdnames.org/bow/ratites/ ), mae'r gwaith o'i ddiwygio yn ormod i un person prysur. Brwynog (sgwrs) 07:06, 12 Awst 2022 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000:@Brwynog: Diolch gyfeillion. Rwy'n meddwl ein bod ni i gyd yn anelu at yr un nod. Dyw i ddim yn credu bod yna wynfa o gysondeb a threfn i'w cyflawni, ond weithiau mae'r anghysondebau rwy'n dod ar eu traws yn dân ar 'nghroen i. Gadawaf yn llonydd y stwff yn y bachau {{Wikidata list...}}, ac os dof i ar draws pethau sy'n addas i'r bot, byddaf i'n rhoi bloedd. --Craigysgafn (sgwrs) 13:33, 12 Awst 2022 (UTC)[ateb]