Sgwrs:Comedi stand-yp

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gawn ni feddwl am hyn? Mae'r term "Comedi ar ei sefyll" yn crensian yn fy nghlustiau! Dw i'n sicr fod na derm neu idiom fwy Cymreig a naturiol i'w gael? Onid "byr-fyfyr" neu "ffwrdd a hi" ydy'r cyfieithiad naturiol? Llywelyn2000 05:16, 29 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Dw i'n hoffi "Comedi ffwrdd a hi" yn bersonol. Pwyll 08:54, 29 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Newydd daro ar draws hwn. Dwi ddim yn hoffi'r bathiad yma chwaith. Fy hun fasen i wedi defnyddio 'comedi llwyfan' gan mai bron yn ddi-eithriad, sefyll ar lwyfan yw stand-up. Wrth gwrs galle'r term yma gynnwys sgetshys comedi neu ddrama gomedi hefyd. Sdim byd newydd mewn comedi stand-up yng Nghymru (dyna yw digrifwyr nosweithiau llawen wedi'r cyfan) ond yn ddiweddar mae yna lawer mwy o ddigrifwyr Cymraeg yn null comedi 'amgen'. Mae 'sefyll lan' wedi cael ei ddefnyddio mewn teitlau sioeau sydd yn addas ond deheueol. A does neb yn ei ddefnyddio fel disgrifiad cyffredinol. Yr unig beth sy'n cael ei ddefnyddio yn eang yw 'stand-yp' (comedi stand-up, sioe stand-yp), gan y BBC/S4C/cwmniau theatr, adolygwyr, ac yn bwysicach, bobl gyffredin. --Dafyddt (sgwrs) 00:27, 13 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
@Pwyll:: "comedi ffwrdd a hi" - gwych a naturiol, ond Gogleddol(?).
@Dafyddt:: "comedi llwyfan" neu "stand-yp" - yr un mor wych a naturiol! O'r tri "stand-yp" ydy'r un nad oes angen esboniad.
Mae unrhyw un o'r tri yma'n dderbyniol gen i. Bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:36, 13 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
@Dafyddt: Gan fod na sawl math o gomedi ar lwyfan Dafyddt, gawn ni fynd am 'Gomedi ffwrdd a hi' am y tro? Ac ailgyfeirio'r lleill iddi? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:58, 15 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
Ar hyn o bryd fasen i blaid defnyddio 'stand-yp' er fod e'n boen nad oes bathiad Cymraeg. Fel mae'n digwydd mae yna erthygl ar y pwnc ar Cymru Fyw heddiw sy'n defnyddio stand-yp drwyddi. Hefyd mae'n werth edrych ar y ieithoedd Wiki arall - mae nhw gyd bron yn defnyddio rhyw fersiwn o 'stand up'. Am y gweddill, mae Sbaeneg yn dweud 'comedi byw', Islandeg yn dweud 'sefyll i fyny', y Swedeg yn dweud 'comedi sefyll lan'. Dwi ddim yn deall digon o'r Wyddeleg ond dwi ddim yn meddwl fod y gair 'sefyll' yno o gwbl. Does dim brys i'w newid ond dwi wedi ehangu'r erthygl allan ychydig yn defnyddio 'stand-yp' am y tro. --Dafyddt (sgwrs) 19:25, 15 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
Trist, ond ti'n iawn! Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:33, 15 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]