Sgwrs:Coed Copi'r Graig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw rhyfedd iawn[golygu cod]

Does posib fod "copi" yn iawn? Ai "copa" (h.y. Coed Copa'r Graig) ddylai fod? Anatiomaros (sgwrs) 22:17, 5 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Hyd yn oed os oes nam yn y gair, nid ein lle ni yw ei gywiro; dyma'r enw a ddefnyddir ar gofrestr Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y cyswllt hwn cofia fod y gair 'copi' hefyd yn golygu 'coedwif fechan' (Saesneg: coppice); gweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:57, 14 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Rwyt ti'n iawn hefyd. Nodi hyn ac enghreifftiau eraill at frys wrth fynd heibio tra'n gwneud y categoriau oeddwn i, ond yn ôl GPC mae 'copi' o'r gair coppice fel ti'n deud. Gair y De, dwi'n meddwl, ac yn bur hen ond anghyfarwydd. Wna i nodi'r ystyr anghyffredin. Diolch! Anatiomaros (sgwrs) 22:46, 14 Awst 2014 (UTC)[ateb]
ON Rwyt ti'n iawn nid ein lle ni ydy cywiro, ond mae'r ychydig (iawn) a gywirwyd gennyf hyd yn hyn yn ddibetrus yn amlwg yn "deipos" (gwirwyd o'r map hefyd gan amlaf). Anatiomaros (sgwrs) 22:46, 14 Awst 2014 (UTC)[ateb]
OON Nodwyd yr ystyr gyda chyfeiriad. Anatiomaros (sgwrs) 22:59, 14 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Bach yn hwyr i'r parti, a falle o darddiad gwahanol, ond mae Fferm Coppi ar gyrion Dinbych i gyferiad Henllan, ag yn ôl Google mae Ystad Ddiwydiannol Coppi yn Rhosllannerchrugog 'fyd.--Rhyswynne (sgwrs) 07:56, 15 Awst 2014 (UTC)[ateb]