Sgwrs:Camlas Trefynwy

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cwestiwn neu ddau[golygu cod]

1. Ydy'r enw yn gywir? Mae Trefynwy yn Sir Fynwy nid Powys. Yn ôl en.wikipedia does dim 'Monmouth Canol' yn bod. 2. Ydy'r SoDdGA ar Camlas Trefaldwyn felly, fel mae'r map yn awgrymu? Os ydyw bydd rhaid symud hyn i 'Camlas Trefaldwyn (SoDdGA)' neu rywbeth tebyg. Anatiomaros (sgwrs) 00:47, 9 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Diolch. Camlas Trefynwy ac Aberhonddu sy'n cael ei gynnig, bellach, gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ar eu cronfa data, ar y pryd, doedd dim son am Aberhonddu! Croeso i ti ei newid. Dw i ddim yn siwr os ydy'r cyfesurynnau'n gywir, fodd bynnag. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:52, 9 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Diolch gyfaill. Mae gennym ni Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog (Monmouthshire and Brecon Canal). Yn ôl ein herthygl, roedd dau gamlas ar wahân yn wreiddiol. Tybed ai cyfeirio at yr hen Gamlas Sir Fynwy - nid Trefynwy! - mai hyn felly, yn hytrach na'r cyfan o'r gamlas unedig (sy'n gymharol ddiweddar)? Erys tipyn o ddryswch felly. Dwi'n cynnig ei symud i 'Camlas Sir Fynwy (SoDdGA)' a chreu ailgyfeiriad 'Camlas Sir Fynwy' (i 'Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu' - gw. isod...).
Ynglŷn â'r cyfesyrynnau: maen nhw'n hollol anghywir ar y map felly achos maen nhw'n dangos lleoliad y safle yn agos i Drefaldwyn neu'r Drenewydd, yng ngogledd Powys! Dyna achosodd fy mhenbleth yn y lle cyntaf.
ON Ia, "Brecon" yn hytrach na "Brecknockshire" sydd yn yr enw Saesneg, felly dydy ein "Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog" ddim yn gywir. "Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu" sy'n iawn, dwi'n meddwl. Mae angen newid hynny hefyd rywbryd, mae'n debyg.
Diolch eto, Anatiomaros (sgwrs) 00:00, 10 Awst 2014 (UTC)[ateb]