Sgwrs:Alfred Russel Wallace

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwy heb gael llawer o lwc cael gwared ar y neges gwall ynghlwm wrth y cyfeiriad (rhif 7) yma: "Gwerthu llythyrau’r Cymro oedd yng nghysgod Charles Darwin". Golwg 360. Gorffennaf 19, 2017. Adalwyd Gorffennaf 19, 2017. Yn gyntaf 'roedd gennyf 19/07/2017 (ar gyfer y ddau) ac mi gynhyrchais yr un neges. "Check date values in: |access-date=, |date= (help)" Beth 'dwyn ei wneud o'i le ? --Deri (sgwrs) 15:21, 21 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

Bore da Deri. Dyma'r hyn dw i'n ei weld ar y sgrin / yr arwyneb: Adalwyd Gorffennaf 19, 2017. Check date values in: |access-date=, sydd, fel y dywedi'n dangos fod gwall. Mi rois y dull sy'n cael ei awgrymu yn y Nodyn / Templad ac mae'n gweithio'n iawn, ond - nid yn ein fformat ni (14 Ebrill 2016), felly mae angen newid Modiwl:Citation/CS1, lle mae'n dweud 'DOES NOT yet support MMMM YYYY or any of the date ranges.' @Dafydd: - unrhyw syniad pam bod y fersiwn ddiweddaraf o Module:Citation/CS1 yn achosi problemau? Dw i wedi gadael neges yma a hei lwc y daw rhywun i'r adwy! Un o'n cryfderau ni ar cywici dwi'n meddwl ydy ein bod wedi cadw at y fformat 14 Ebrill 2016 ers y cychwyn, yn ddi-ildio, sy'n ddull hawdd, syml a modern. Mae gwyro i dderbyn dd/mm/bb (neu waeth) yn bocha'r fformat sydd gennym. Yr ateb hawdd wrth gwrs ydy symlau'r dull cyfeirio i <ref>[www.urlirywle.com Gwefan Dwnimlle;] adalwyd 14 Ebrill 2016</ref> fel mae nifer ohonom yn ei wneud, ond byddai rhoi'r dewis o gyfeiriadaeth fanylach, wrth gwrs, yn well! Diolch am y proc Deri! Daw Dafyddt neu rywun arall gwell na fi a'r ateb cyn hir. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:51, 22 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
Annwyl Robin a Dafydd. Diolch o galon (falch i glywed fod fy ymbalfalu syml o gymorth). Rhaid cyfaddef mai "araf iawn rwyf fi i ddysgu, amyneddgar iawn wyt ti" lle bo tudalennau cymorth y we yn y cwestiwn ! Mi geisiais ddeall yr "help" ond heb lawer o lwyddiant. pob hwyl - cawn gwrdd yn y Genedlaethol, gobeithio. --Deri (sgwrs) 08:16, 23 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]