Sgwrs:Aberdyfi

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Gŵyl y Golau[golygu cod]

Dwi newydd dynnu rhai brawddegau o'r adran am ddiwylliant a thraddodiadau. Barnau a sylwadau simplistig oedd y rhan fwyaf, yn fy marn i, ond rhyngddynt roedd sôn am Ŵyl y Golau, a allai fod o diddordeb, ond dwi'n methu dod o hyd i hysbysrwydd amdano ers 2008 - ydy o'n rhedeg o hyd? Ac hefyd, ble? Mae'n ymddangos nad yn Aberdyfi eithr ym Machynlleth 'roedd cyn hynny. Nain Nain Nain 08:37, 29 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 01:57, 9 Mai 2012 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd

Dim problem efo hon. Llywelyn2000 (sgwrs) 03:39, 11 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Enw Saesneg[golygu cod]

Dileodd y defnyddiwr anhysbys <144.124.41.68> y pwt o wybodaeth "(Saesneg: Aberdovey)" o'r erthygl, gan nodi: "'Aberdyfi' yw'r enw swyddogol yn y ddwy iaith." Yn gwmws. Dyna'r enw swyddogol. Ond nid dyna ddiwedd y stori. "Roma" yw enw swyddogol Rhufain, ond rydyn ni'n defnyddio'r olaf, er gwaethaf yr hyn y gallai rhywun o'r Eidal ei ddweud. Mae'r dref ei hun yn parhau i ddefnyddio "Aberdovey" yn ei deunydd hyrwyddo (gweler ei gwefan), yn amlwg oherwydd bod llawer o siaradwyr Saesneg yn dal i ddefnyddio'r ffurf honno. Nid ydym yn ei argymell, dim ond ei nodi fel ffaith hanesyddol. Rwy'n credu ei fod yn ateb pwrpas, felly rwyf wedi addasu'r geiriau ychydig a rhoi "Aberdovey" yn ôl. --Craigysgafn (sgwrs) 12:09, 22 Rhagfyr 2021 (UTC)[ateb]