Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Aberbargoed

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Aberbargo[e]d

[golygu cod]

Dwi wedi creu hyn ar ôl darllen Glyndŵr Michael ac am fod dau gyfeiriad arall at y lle fel 'Aberbargod' gennym. Ond 'Aberbargoed', fel a geir ar y mapiau, yw cynnig Enwau Cymru (e-gymraeg / Canolfan Bedwyr). Dwi heb ailgyfeirio Aberbargoed i hyn eto. Gweler hefyd 'Bargoed'/'Bargod'. Oes rhywun yn gwybod mwy am hyn? Anatiomaros 23:11, 6 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

O.N. Yn yr erthygl 'Bargoed' (gyda Bargod yn ailgyfeiriad iddi), dywedir "Mae Bargod (defnyddir yr enw Bargoed gan siaradwyr Cymraeg hefyd) yn dref....". Mae angen datrys y dryswch! Anatiomaros 23:13, 6 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Ia, cofia mae "cod" yw'r ynganiad deheuol am "goed". Sillafiad artiffisial y llygad yw "goed"; dyna'r unig ddryswch. Eithr "Bargoed" yw'r ffurf cydnabyddedig, yn ol Dictionary of the Place-names of Wales. Gwell eu dilyn nhw, mae'n debyg, yn hytrach na'r brodorion lleol!! Yn groes i'r graen... Llywelyn2000 07:02, 8 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am yr esboniad. Eisiau cadarnhad am y sillafiad safonol oeddwn i ac felly er bod pobl leol yn deud 'Aberbargod' ar lafar - a diolch am esbonio pam - dylem ni ddefnyddio'r ffurf safonol mewn gwyddoniadur fel Wicipedia. Dwi ddim yn gweld y ddadl dros ddilyn sillafiad sy'n seiliedig ar yr ynganiad lleol - meddylia am Ogwan (ar lafar yn lleol yn ddieithriad) am Ogwen, er enghraifft, a llu o enghreifftiau eraill. Symudaf hyn i Aberbargoed felly. Anatiomaros 22:24, 8 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]