Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Sgwâr y Frenhines
Mathsgwâr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.046775°N 2.993472°W Edit this on Wikidata
Map

Sgwâr yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddywrain Cymru, yw Sgwâr y Frenhines (Saesneg: Queen's Square).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Sgwâr y Frenhines yn sefyll yng nghanol Wrecsam, ar y gyffordd rhwng Stryt yr Arglwydd, Stryt y Syfwr, Stryt Lampint a Ffordd Rhosddu. Mae'r sgwâr yn ffurfio ffin rhwng ardaloedd masnachol a dinesig y ddinas.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dros y blynyddoedd, mae nifer o adeiladau hanesyddol a arferai sefyll ar y sgwâr wedi cael eu colli.

Rhwng 1910 a 1960 safai sinema The Glynn y drws nesaf i'r hen lyfrgell, mewn adeilad yn yr arddull neo-Duduraidd. Dywedwyd mai'r Glynn oedd y sinema gyntaf a adeiladwyd yn bwrpasol yng ngogledd Cymru.[1]

Yn 1898, sefydlwyd y farchnad lyisau mewn adeilad neo-Duduraidd ar y gyffordd rhwng Stryd y Syfwr a Stryt y Lampint. Yn 1990 dymchwelwyd yr adeilad hwn. [2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae Sgwâr y Frenhines yn sefyll ar y ffin rhwng ardaloedd masnachol a dinesig Wrecsam. Mae strydoedd masnachol fel Stryt yr Arglwydd a Stryt yr Syfwr yn arwain at y sgwâr ac erbyn heddiw, y cyngor biau'r rhan fwyaf o'r adeiladau ar ei hochr ogleddol.

Cynhelir marchnad awyr agored bob dydd Llun yn Sgwâr y Frenhines ac felly mae'n cadw'r cysylltiad â hanes Wrecsam fel tref farchnad.[3]

Heddiw mae gan y sgwar gymeriad modern, ac eithrio'r hen lyfrgell, a adeiladwyd yn 1907 gyda chymorth ariannol gan y Carnegie Trust. Ers 1973 mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfa gan y cyngor lleol.[4]

Llyfrgell Carnegie ar Sgwâr y Frenhines

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Glynn Picture House, Queen's Square, Wrexham". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-01. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
  2. "Wrexham Markets Overview". Wrexham.com. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
  3. "Marchnadoedd canol tref Wrecsam". Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
  4. "Old Library, Rhosddu Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.