Senana
Senana | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Bu farw | 1263 |
Tad | Caradog ap Thomas |
Mam | Efa ferch Gwyn |
Priod | Gruffudd ap Llywelyn Fawr |
Plant | Llywelyn ap Gruffudd, Dafydd ap Gruffudd, Rhodri ap Gruffudd, Owain ap Gruffudd |
Y Dywysoges Senana (neu Senena) ferch Caradog ap Thomas (fl. 1210 - 1260) oedd gwraig Gruffudd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd.[1]
Tras
[golygu | golygu cod]Trwy ei thad Caradog roedd hi'n orwyres i Owain Gwynedd. Roedd hi'n fam i Lywelyn Ein Llyw Olaf a'i frawd Dafydd. Roedd hi hefyd yn fam i Rodri ac Owain ynghyd â dwy ferch, Gwladus a Margaret.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Mae'r ychydig sy'n hysbys am Senana yn deillio o'r cyfeiriadau amdani yng nghofnodion y cyfnod, a hynny am ei bod yn chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Gwynedd ac yn y berthynas rhwng Gwynedd a choron Lloegr. Yn Awst 1241 aeth o Wynedd i gyfarfod â Harri III o Loegr yn Amwythig i geisio amodau am ryddhau ei gŵr o garchar ei frawd Dafydd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd. Pan garcharwyd ei gŵr Gruffudd gan Harri yn Nhŵr Llundain âi Senana yno i ymweld ag ef a cheisio ei gynorthwyo. Er mwyn gwneud hynny llwyddodd i gael caniatad y brenin. Mae ei diwedd yn anhysbys.[1]