Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 - Ras ffordd merched

Oddi ar Wicipedia
Seiclo yng
Ngemau Olympaidd yr Haf 2008
Seiclo Ffordd
Ras ffordd   dynion   merched
Treial amser dynion merched
Seiclo Trac
Pursuit unigol dynion merched
Pursuit tîm dynion
Sbrint dynion merched
Sbrint tîm dynion
Ras bwyntiau dynion merched
Keirin dynion
Madison dynion
Beicio Mynydd
Traws-gwlad dynion merched
BMX
BMX dynion merched

Cynhaliwyd ras ffordd merched Gemau Olympaidd yr Haf 2008 ar 9 Awst ar y Cwrs Seiclo Ffordd Trefol. Roedd y ras yn 126.4 cilometr (78.29 milltir o hyd a gwblhawyd mewn amser o 3 awr 32' 24", sef 35.71 cilometr yr awr (22.19 milltir yr awr). Fe gymerodd 66 o ferched o 33 gwlad rhanyn y ras.

Fe ddisgynodd glaw trwm yn ystod y ras, gan greu amodau anodd ar gyfer y reidwyr. Ac er i nifer o reidwyr unigol ymosod oddiar flaen y maes fe dynnwyd pob un yn ôl yn eu tro. Fe dorrodd grŵp o chwech i ffwrdd ar y gylched olaf gan arod i ffwrdd hyd y diwedd lle profodd y Gymraes Nicole Cooke i fod y reidiwr cryfaf ar y dydd.

Roedd beirniadaeth hallt wedi sawl digwyddiad yn ystod y ras: fe gafodd un reidiwr fantais o ddau funud ar flaen y maes ond bu raid iddi stopio gan nad oedd y cwrs wedi ei farcio'n glir. Disgynodd Gu Sungeon o Dde Corea reolaeth ar ei beic mewn un o'r damweiniau gan ddodd ac eraill i lawr gyda hi a disgyn i ffôs concrid dwfn ar ymyl y ffordd.

Roedd y ras hefyd yn nodi'r seithfed tro i'r seiclwraig Ffrengig, Jeannie Longo ddechrau'r ras Olympaidd, a hithau'n 49 oed; fe orffennodd yn y 24ydd safle.

Roedd Maria Isabel Moreno o Sbaen i fod i gymryd rhan yn y ras, ond fe adawodd Beijing y diwrnod cynt. Datganwyd ar 11 Awst ei bod wedi profi'n bositif ar gyfer EPO, hwn oedd y prawf cyffuriau positif cyntaf yng Ngemau 2008.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Safle Reidiwr Amser
Baner Prydain Fawr Nicole Cooke 3 awr 32′ 24″
Baner Sweden Emma Johansson 3 awr 32′ 24″
Baner Yr Eidal Tatiana Guderzo 3 awr 32′ 24″
4 Baner Awstria Christiane Soeder 3 awr 32′ 28″
5 Baner Denmarc Linda Melanie Villumsen Serup 3 awr 32′ 32″
6 Baner Yr Iseldiroedd Marianne Vos 3 awr 32′ 45″
7 Baner Y Swistir Priska Doppman 3 awr 32′ 45″
8 Baner Gwlad Pwyl Paulina Brzezna 3 awr 32′ 45″
9 Baner Lithwania Edita Pucinskaite 3 awr 32′ 45″
10 Baner Casachstan Zulfiya Zabirova 3 awr 32′ 45″

Ffynonellau[golygu | golygu cod]