Seffyr y bedw
| Macaria notata | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Geometridae |
| Llwyth: | Macariini |
| Genws: | Macaria |
| Rhywogaeth: | M. notata |
| Enw deuenwol | |
| Macaria notata Linnaeus, 1758 | |
| Cyfystyron | |
|
Semiothisa notata | |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw seffyr y bedw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy seffyrau'r bedw; yr enw Saesneg yw Peacock Moth, a'r enw gwyddonol yw Macaria notata.[1][2]

Mae i'w ganfod drwy Ewrop gyfan.
28–32 mm ydy lled eiadenydd agored ac mae i'w ganfod ar ei adain rhwng Mai a Mehefin, yn ddibynol ar ei leoliad. Mae'n hynod o debyg i wyfyn arall o'r enw y Seffyr sgolpiog (Macaria alternata).
Fel yr awgryma'r enw, prif fwyd y siani flewog ydy'r fedwen.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r seffyr y bedw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
