Sassie Rees

Oddi ar Wicipedia
Sassie Rees
Ganwyd1916 Edit this on Wikidata
Abermaw Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 2013 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
PlantOlwen Rees Edit this on Wikidata

Cantores Gymraeg oedd Sassie Rees (19163 Mawrth 2013)[1] a ddaeth yn adnabyddus am ganu ar raglenni plant yn y 1950 - 1960au ar raglenni radio megis Awr Y Plant, Ar Lin Mam a Jim Cro Crystyn. Recordiodd dros 300 o ganeuon ysgafn, y rhan fwyaf gyda'r BBC.[2][3]

Arferai ganu, hefyd, ar y rhaglen "Noson Lawen", ac yn aml ymunai gyda Thriawd y Coleg.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Abermaw a dechreuodd ganu yn 8 oed. Enillodd dros 150 o wobrau mewn gwahanol eisteddfodau cyn yr oedd yn 15 oed.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd ganddi un ferch, yr actores Olwen Rees. Bu farw yn Ysbyty'r Waun, Caerdydd yn 97 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Sassie Rees - Obituary. bmdsonline.co.uk (11 Mawrth 2013). Adalwyd ar 12 Mai 2016.
  2. Golwg; 7 Mawrth 2013; tudalen 7
  3. 3.0 3.1 Sassie Rees yn marw , Golwg360, 3 Mawrth 2013. Cyrchwyd ar 12 Mai 2016.