Sarn Badrig
Math | Riff |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8108°N 4.1574°W |
Sarn neu rîff dan y môr ym Mae Ceredigion yw Sarn Badrig. Mae'n ymestyn tua'r de-orllewin o'r arfordir ger Mochras, gerllaw Llanbedr am tua 24 km. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir gweld y sarn, ond gan ei bod yn weddol agos at yr wyneb, mae'n medru bod yn beryglus i gychod. Credir i'r sarn gael ei chreu yn ystod Oes yr Ia, gan rewlif a adawodd weddillion o glai clogfaen. Ceir amrywiaeth o wymon y môr ar y sarn, ac o'r herwydd mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig.
Mewn chwedl, Sarn Badrig yw gweddillion y mur a oedd yn gwarchod Cantre'r Gwaelod rhag y môr. Awgryma'r enw gysylltiad a Sant Padrig; y syniad mae'n debyg oedd ei bod yn llwybr a ddefnyddiai ef i gerdded i Iwerddon.
Bu Lewis Morris yn cynnal arolwg o'r ardal. Yn mis Mai, 1742, ysgrifennodd: Have been upon ye Innermost part of Sarn Badrig and have taken many soundings. The more I know it the more terrible it is.
Sarn Badrig yw'r fwyaf o dair sarn ym Mae Ceredigion; y ddwy arall, ymhellach i'r de, yw Sarn-y-Bwch a Sarn Cynfelyn. Ystyrir hwy yn nodweddion tanfor unigryw yn Ynysoedd Prydain.
Llongddrylliadau
[golygu | golygu cod]Ceir rhestr o holl ddrylliadau'r ganrif ddiwethaf yma.
Trwy lygaid eraill
[golygu | golygu cod]Moelfre, Aberdaron: “29 Ionawr 1884: ...Daeth llong ar y Sarn Patrick yn llwythog o wenith a had llin”.[1]
Sarn Badrig: “EULOMENE Stranded and lost [ar Sarn Badrig] whilst carrying a cargo of linseed, wheat and one stowaway in wind conditions SW force 6 [y llong yn mynd o Calcutta i Lerpool, full rigged ship o haearn, wedi ei chofrestru yn Lerpwl, gyda chargo o lin, "cake" a gwenith. Criw o 28 ac 1 teithiwr (y stowaway mae’n debyg)[2]
- Mae’n amlwg bod y tywydd garw wedi parhau tan o leiaf y 29ain. Tri diwrnod ynghynt, yn Ochtertyre, Crieff, yr Alban ar y 26 Ionawr cofnodwyd bod An exceptionally stormy week ends today with the lowest unchallenged pressure reading ever recorded in the British Isles - 925.6 mbar. A violent gale ensues, blowing down a million trees on one Scottishe state alone[3]
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiadur W Jones, Moelfre, Aberdaron yn y Tywyddiadur
- ↑ Shipwreck Index of the British Isles (Lloyds Register of Shipping)
- ↑ Woodward, A. & Penn R. The Wrong Kind of Snow (Hodder&Stoughton)