Sarah Williams (Sadie)
Sarah Williams | |
---|---|
Ffugenw | Sadie |
Ganwyd | 1837 Marylebone |
Bu farw | 25 Ebrill 1868 Kentish Town |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, llenor |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Roedd Sarah Williams (Rhagfyr 1837 – 25 Ebrill 1868) yn fardd a nofelydd o dras Gymreig, yn fwyaf enwog fel awdur y gerdd "The Old Astronomer".[1] Cyhoeddodd weithiau byrion ac un casgliad o farddoniaeth yn ystod ei hoes o dan y ffugenwau Sadie a S.A.D.I., Ystyriodd bod Sadie yn rhan o'i henw go iawn yn hytrach nag enw barddol.[2] Ymddangosodd ei hail gasgliad barddoniaeth a nofel a gyhoeddwyd wedi ei marwolaeth o dan ei henw bedydd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Sadie ym mis Rhagfyr 1837 yn Marylebone, Llundain, yn ferch i Robert Williams (c. 1807-1868), Cymro, o Sir Gaernarfon yn wreiddiol a oedd yn gwerthu hosanau a sidan yn Llundain[3], a'i wraig Seisnig Louisa Ware (c. 1811-1886).[4] [5] Roedd hi'n agos iawn at ei thad ac yn ystyried bod ei doniau barddol yn deillio oddi wrtho ef.[6] Fel plentyn ifanc roedd hi'n methu ynganu 'Sarah', yn anfwriadol rhoddodd y llysenw 'Sadie' iddi ei hun.[2] Roedd hi'n unig blentyn.
Cafodd ei haddysgu gartref yn gyntaf gan ei rhieni, ac yn ddiweddarach gan dysgodresau.[6]
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Er mai dim ond hanner Cymraes oedd Sadie a chafodd ei geni yn Llundain ac na fu'n byw erioed y tu allan i'r ddinas, ymgorfforodd ymadroddion a themâu Cymraeg yn ei cherddi. Er enghraifft mae ei cherdd am ei thad ar ei wely angau yn dwyn y teitl O fy Hen Gymraeg [7] ac yn cynnwys y geiriau hynny ar ddiwedd pob pennill. Mae'r gerdd yn terfynu efo'r cwpled:
"Gorffwysfa! O Gorffwysfa!
Gogoniant Amen!"[8]
(Mewn troednodyn i'r gerdd mae Sadie yn honni bod Handel wedi cael ysbrydoliaeth i'w Corws Haleliwia tra ar daith yng Nghymru a chlywed dychweledigion cyfarfod diwygiad yn llafarganu "Gogoniant Amen"[9])
Roedd hi'n ystyried ei hun ac yn cael ei chyfrif gan eraill, fel bardd Cymreig.[10][11]
Bu farw Robert Williams yn sydyn yn Ionawr 1868. Ar adeg marwolaeth ei thad roedd Sadie yn gwybod bod hi'n dioddef o gancr. O dan y loes o golli ei thad gwaethygodd ei chyflwr. [6] Ar y cychwyn bu Sadie yn cuddio ei salwch rhag ei theulu a'i chyfeillion. Wedi iddynt ddod i wybod am gyflwr ei hiechyd rhyw tri mis ar ôl farwolaeth ei thad, cytunodd i gael llawdriniaeth er ei bod yn gwybod y gallai ei lladd. Bu farw yn Kentish Town, Llundain yn ystod llawdriniaeth ar 25 Ebrill 1868. [5] [12]
Cyhoeddwyd ei hail lyfr barddoniaeth, Twilight Hours: A Legacy of Verse, ar ddiwedd 1868.[13] Roedd y casgliad yn cynnwys "The Old Astronomer", ei cherdd enwocaf. Mae ail hanner pedwerydd pennill y gerdd yn cael ei dyfynnu’n eang:
Though my soul may set in darkness,
It will rise in perfect light;
I have loved the stars too truly
To be fearful of the night.[14]
"Set in Darkness" oedd teitl un o nofelau'r gyfres Inspector Rebus gan yr awdur Albanaidd Ian Rankin. Mae Rankin yn dyfynnu’r llinellau uchod yn rhagymadrodd y llyfr.
Ysgrifennwyd "The Old Astronomer" o safbwynt seryddwr oedrannus ar ei wely angau yn gwneud cais i'w fyfyriwr barhau â'i ymchwil diymhongar. Mae'r llinellau wedi'u dewis gan nifer o seryddwyr proffesiynol ac amatur fel eu beddargraffiadau.[5] [15]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Sarah, "The Old Astronomer (ar Wicidestun Saesneg)", Twilight Hours, https://en.wikisource.org/wiki/Twilight_Hours_(1868)/The_Old_Astronomer, adalwyd 2022-12-30
- ↑ 2.0 2.1 Plumptre, Edward Hayes (1868). Williams, Sarah (gol.). Twilight Hours: A Legacy of Verse. Strahan. tt. vii–xxxiii. Cyrchwyd 14 Awst 2022.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1851; St Marylebone, Llundain Cyfeirnod HO107/ 1486; Ffolio: 588; Tud: 11;
- ↑ "Mynegai Genedigaethau". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 14 Awst 2022.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Hughes, Stefan (2012). Catchers of the Light: The Forgotten Lives of the Men and Women Who First Photographed the Heavens (PDF). ArtDeCiel Publishing. t. i. ISBN 9781620509616.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Miles, Alfred Henry, gol. (1898). The Poets and the Poetry of the Nineteenth Century. 7. tt. 573–594.
- ↑ Adolygiad o lyfr Sadie "Twilight Hours" gan Robert David Rowland (Anthropos) ar Wicidestun
- ↑ https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1369111/154# Yr Awen Gymreig Mewn Diwyg Seisnig; Cymru; 61, 1921; tud 159]
- ↑ Bye-gones relating to Wales and the border counties;Ebrill 1876, tud 42—"Handel in Wales"
- ↑ J.J. (1885). Harris, James. ed. "Queries". The Red Dragon: The National Magazine of Wales 8: 406. https://books.google.com/books?id=KBYJAQAAIAAJ&pg=PA406.
- ↑ Edwards, Owen Morgan (1922). . . Wrecsam: Hughes a'i Fab. t. 114.
- ↑ Macleod, Norman, ed. (1 Mehefin 1868). ""Sadie": In Memory of an Esteemed Contributor". Good Words (Strahan & Co.). https://books.google.com/books?id=rzMFAAAAQAAJ&pg=PA379. Adalwyd 14 Awst 2022.
- ↑ Williams, Sarah (1868).Twilight hours, a legacy of verse; introduction by Plumptre, E. H., Strahan & Co., London. Adalwyd 14 Awst 2022
- ↑ Williams, Sarah (1868). "The Old Astronomer". Twilight Hours. Strahan & Co. t. 69.
- ↑ Barnes, Don (March 1998). "'I Have Loved the Stars Too Fondly'". Sky and Telescope 95 (3): 10. Bibcode 1998S&T....95c..10B. https://archive.org/details/sim_sky-and-telescope_1998-03_95_3/page/10.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Twilight Hours: A Legacy of Verse
- The Prima Donna: Volume 1, Volume 2
- Gweithiau gan Sarah Williams at LibriVox (llyfrau sain parth cyhoeddus)