Sarah Springman
Sarah Springman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1956 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | geotechnical engineer, academydd, triathlete ![]() |
Swydd | rheithor, prifathro ![]() |
Cyflogwr |
|
Priod | Rosemary Clugston ![]() |
Gwobr/au | CBE, Fellow of the Royal Academy of Engineering, honorary doctor of the University of Bath, Honorary doctor at the University of Bern, honorary doctor of the University of Sheffield, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ![]() |
Chwaraeon |
Triathletwr, peiriannydd sifil ac academydd Prydeinig yw Sarah Marcella Springman, CBE, FREng (ganwyd 26 Rhagfyr 1956). Cafodd ei addysg yn Lloegr a threuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa ddiweddar yn y Swistir. Ar hyn o bryd mae hi'n reithor y Sefydliad Technoleg Ffederal y Swistir yn Zurich.
Cafodd Springman ei geni ym Llundain, ac addysgwyd yn Abaty Wycombe, lle bu'n llywodraethwr yn ddiweddarach rhwng 1993 a 1996. [1] [2] Astudiodd y gwyddorau peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt rhwng 1975 a 1978. [3] Dychwelodd am MPhil mewn mecaneg pridd ym 1983 a chynhaliodd ei hymchwil doethuriaeth mewn rhyngweithio strwythur pridd, gan ennill ei doethuriaeth rhwng 1984 i 1989. Gweithiodd fel peiriannydd ar brosiectau geodechnegol yn Lloegr, Awstralia a Ffiji (yn bennaf ar Argae Monasavu yn Viti Levu ), rhwng 1979 a 1983. Daeth yn beiriannydd siartredig ac yn Aelod o Sefydliad y Peirianwyr Sifil ym 1983. [4] Mae'n briod â Rosie Mayglothling.
Yn 2021 penodwyd Springman yn brifathro nesaf Coleg y Santes Hilda, Rhydychen.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Neue ETH-Rektorin: Sarah Springman" (yn Almaeneg). 10vor10. 15 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Sarah Marcella Springman". Debretts People of Today online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-17. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Ms Prof. Dr. Sarah M. Springman". ETH Zurich. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Professor Sarah Springman CBE, FREng". University of Bath. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-17. Cyrchwyd 23 Mehefin 2014.