Viti Levu
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Suva |
| Poblogaeth | 580,000 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Fijian Archipelago, Viti Levu Group |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 10,531 km² |
| Uwch y môr | 1,324 metr |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
| Cyfesurynnau | 17.8°S 178°E |
| Hyd | 146 cilometr |
![]() | |
Ynys fwyaf Ffiji yn y Cefnfor Tawel yw Viti Levu. Mae'r boblogaeth tua 600,000, dwy ran o dair o holl boblogaeth Ffiji. Y brifddinas yw Suva, sydd hefyd yn brifddinas y wlad. Mae'r trefi eraill yn cynnwys Nadi, Lautoka, Ba a Sigatoka.
Saif 64 km o'r ynys ail-fwyaf, Vanua Levu. Mae'n 146 km o hyd a 106 km o led, gydag arwynebedd o 10,338 km². Rhennir yr ynys yn ddwy gan gadwyn o fynyddoedd sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de. Y copa uchaf yw Tomanivi (1,324 medr). Prif gynnyrch yr ynys yw siwgwr, tybaco a chotwm.
