Vanua Levu
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Labasa |
| Poblogaeth | 130,000, 30,000 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ffiji, Vanua Levu Group |
| Sir | Northern Division |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,587 km² |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
| Cyfesurynnau | 16.58°S 179.18°E |
| Hyd | 180 cilometr |
![]() | |
Yr ail ynys o ran maint o ynysoedd Ffiji yw Vanua Levu. Ystyr yr enw yw "Tir Mawr".
Saif 64 km o'r ynys fwyaf. Viti Levu. Mae'n 180 km o hyd a rhwng 30 a 50 km o led, gydag arwynebedd o 5.587 km². Mae'r boblogaeth tua 130,000, a'r brif dref yw Labasa. Y copa uchaf yw Nasorolevu (1,032 medr). Prif gynnyrch yr ynys yw copra a siwgwr.
Credir fod yr ynys wedi ei phoblogi yn gynharach nag ynys Viti Levu. Yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd y fforiwr Abel Tasman o'r Iseldiroedd.
