Neidio i'r cynnwys

Sarah Angelina Acland

Oddi ar Wicipedia
Sarah Angelina Acland
Ganwyd26 Mehefin 1849 Edit this on Wikidata
Broad Street Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
Park Town Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata
TadHenry Acland Edit this on Wikidata
MamSarah Acland Edit this on Wikidata

Ffotograffydd amatur o Loegr oedd Sarah Angelina "Angie" Acland (26 Mehefin 18492 Rhagfyr 1930). Roedd hi'n adnabyddus am ei phortreadau ac fel arloeswr ffotograffiaeth lliw.[1]

Cafodd ei geni yn Rhydychen, yn ferch i Syr Henry Wentworth Acland (1815-1900), Athro Meddygaeth Regius ym Mhrifysgol Rhydychen, a'i wraig Sarah Acland (g. Cotton, 1815-1878). Bu'n byw gyda'i rhieni yn 40-41 Broad Street, Rhydychen.[2]

Yn blentyn, tynnwyd llun Sarah gan Charles Lutwidge Dodgson (neu Lewis Carroll ) gyda'i ffrindiau, Ina Liddell ac Alice Liddell.[3] [4]

Yn 19 oed, cyfarfu â'r ffotograffydd benywaidd enwog Julia Margaret Cameron . Cymerodd Acland portread o'r Prif Weinidog William Gladstone yn ystod ei ymweliad â Rhydychen. [5] Ar farwolaeth ei mam yn 1878, daeth Sarah yn ofalwraig tŷ ei thad yng nghartref y teulu. [6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hudson, Giles (2012). Sarah Angelina Acland: First Lady of Colour Photography. Rhydychen: Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen. ISBN 978-1-85124-372-3. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Distributed by The University of Chicago Press in the US.
  2. "Sarah Angelina (Angie) Acland". Halhed Genealogy & Family Trees. Cyrchwyd 19 January 2013.
  3. Pritchard, Michael (14 September 2012). "Book: Sarah Angelina Acland re-discovered as one of the Pioneers of Colour Photography". British photographic history. Ning. Cyrchwyd 16 January 2013.
  4. Taylor, Roger; Wakeling, Edward (2002). Lewis Carroll: Photographer – The Princeton University Library Albums. Princeton and Oxford: Gwasg Prifysgol Princeton. tt. 160, 167, 250–251. ISBN 0-691-07443-7.
  5. Ffrench, Andrew (22 Medi 2012). "Book provides picture of photography pioneer". Oxford Mail.
  6. "The cabmen's shelter". Broad Street, Oxford. Rhydychen: Headington. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Medi 2012. Cyrchwyd 19 Ionawr 2013.