Sierôm
| Sierôm | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 345 Stridon, Dalmatia |
| Bedyddiwyd | 366 |
| Bu farw | c. 30 Medi 420 Bethlehem |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | clerig, diwinydd, hanesydd, diffynnydd, cyfieithydd y Beibl, ancr, bardd, ysgrifennwr, ysgolor beiblaidd, cyfieithydd |
| Swydd | ysgrifennydd |
| Cysylltir gyda | monastic |
| Adnabyddus am | Y Fwlgat, De scriptoribus ecclesiasticis, Chronicon, Commentary on Paul’s Epistle to the Galatians |
| Prif ddylanwad | mynachaeth, Iesu |
| Dydd gŵyl | 30 Medi, 15 Mehefin, 30 Medi, 30 Medi |
| Plant | Vytautas Benokraitis |
Sant ac awdur Cristnogol oedd Sant Sierôm, Groeg: Ευσέβιος Σωφρόνιος Ιερώνυμος, Lladin: Eusebius Sophronius Hieronymus (tua 347 – 30 Medi 420). Mae'n fwyaf adnabyddus fel cyfieithydd y Beibl o'r Groeg a Hebraeg i'r Lladin. Cyfieithiad Sierôm yw'r Fwlgat, sy'n parhau i gael ei ddefnyddio.
Ganed ef tua 347 yn Strido, ar y ffin rhwng Pannonia a Dalmatia. Aeth i Rufain gyda'i gyfaill Bonosus i astudio rhethreg ac athroniaeth. Wedi rhai blynyddoedd yma aeth ef a Bonosus ymlaen i Gâl. Tua 373 aeth ar daith trwy Thrace ac Asia Leiaf i ogledd Syria. Cymerwyd ef yn ddifrifol wael yn Antioch, a chafodd weledigaeth a'i perswadiodd i ymroi i grefydd.
Ordeiniwyd ef yn Antioch gan yr Esgob Paulinus tua 378 neu 379, ac aeth i Gaergystennin i astudio dan Gregory Nazianzen. Wedi dwy flynedd yma, dychwelodd i Rufain lle bu'n cynorthwyo'r Pab Damaseus I. Dychwelodd i Antioch yn 385 ac aeth ymlaen i ymweld â Jerusalem, Bethlehem a Galilea, yna ymlaen i'r Aifft. O 388 ymlaen, treuliodd y gweddill o'i fywyd fel meudwy gerllaw Bethlehem.
Yng Nghymru, rhoddodd ei enw i o leiaf tair eglwys Gristnogol - a phob un o'r dair mewn pentref o'r enw "Llangwm":