Neidio i'r cynnwys

Sant Guirec

Oddi ar Wicipedia

Yn ôl traddodiad storiol y Cymry, roedd Sant Guirec (t. 6g), yn fynach Cymraeg a aeth ati i sefydlu mynachdy yn y Llydaw Celtaidd. Traou-Perros oedd yr ardal ddewisodd Guirec i sefydlu ei gymdeithas newydd.

Areithfa neu fetws Sant Guirec

Yn ôl y sôn, cyrhaeddodd Llydaw mewn cafn carreg a dynnwyd gan angylion; glaniodd ar draeth fechan sydd erbyn hyn yn dwyn ei enw. Mae cysegr a gafodd ei adeiladu yn y 12g o'r enw L'Oratoire de Saint-Guirec yn sefyll yn y bae yn Ploumanac'h, gyda chapel yn gwynebu tuag at y traeth. Mae menywod wedi bod yn gwneud y bererindod i'r cysegr ers canrifoedd er mwyn galw ar Cyfrwngddarostyngedigaeth gweddigar y mynach am sant ar gyfer diogelwch eu gwŷr mordwyol. Bu menywod ifanc hefyd yn gofyn am weddiau Guirec er mwyn cael gafael ar ŵr yn fuan. Yn ôl y sôn, mae'r traddodiad o blycio ar drwyn cerflun y sant yn annog Guirec i sicrhau y byddai'r menywod ifanc yn briod o fewn blwyddyn o'r bererindod. 

Mae Sant Guirec yn cael ei goffau yn lleol gan yr Eglwys Gatholig yn Llydaw mewn cysylltiad gyda seremoni traddodiadol y Pardon, ar noswyl Gŵyl Esgyniad Iesu i'r nefoedd. Mae Diwrnod yr Esgyniad yn cael ei ddathlu ar y deugeinfed diwrnod ar ôl y Pasg.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]