Neidio i'r cynnwys

Sansibar

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sansibar (ynys))
Sansibar
Mathtalaith, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasSansibar Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,503,569 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAli Mohamed Shein Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Dwyrain Affrica Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Swahili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Tansanïa Tansanïa
Arwynebedd2,461 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau5.9°S 39.3°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAli Mohamed Shein Edit this on Wikidata
Map
Arianrupee Dwyrain Affrica Edit this on Wikidata

Ynys yng Nghefnfor India oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica yw Sansibar[1] neu Unguja. Yn wleidyddol, mae'n rhan o Dansanïa. Gerllaw, mae ynys lai Pemba, a ystyrir yn rhan o Sansibar.

Ynys Sansibar

Mae gan yr ynys arwynebedd o 1554 km² a phoblogaeth o tua 1 miliwn. Y brifddinas yw dinas Sansibar. Tyfu sbeis yw'r prif weithgarwch economaidd. Roedd yr Arabiaid wedi ymsefydlu yma erbyn y 10g, ac erbyn i Vasco da Gama ymweld yn 1498 roedd yn cynnal masnach lewyrchus ag India. Glaniodd y Portiwgeaid ar yr ynys yn 1503. Yn 1698, daeth i feddiant Swltan Oman. Daeth i feddiant Prydain yn niwedd y 19g. Daeth yn annibynnol yn niwedd 1963, ac yn fuan wedyn ymunodd â Thanganica i greu Tansanïa. Mae ganddi fesur helaeth o ymreolaeth o fewn Tansanïa, gyda'i Arlywydd ei hun, dydd hefyd y Ddirpwy-arlywydd Tansanïa.

Hyd nes i Cenia ddod yn annibynnol yn 1963, roedd Mombassa dan reolaeth Sansibar. Wedi hynny, daeth yn rhan o Cenia.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "Zanzibar"