Sam Mussabini

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sam Mussabini
Willie Applegarth and Sam Mussabini 1912.jpg
Ganwyd 1867 Edit this on Wikidata
Blackheath Edit this on Wikidata
Bu farw 1927 Edit this on Wikidata
Gwaith Newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Hyfforddwr athletau a seiclo Seisnig oedd Scipio Africanus 'Sam' Mussabini (6 Awst 186712 Mawrth 1927), a ddaeth yn enwog fel hyfforddwr i Harold Abrahams.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn Llundain o ddisgyniad Arabaidd, Twrcaidd, Eidalaidd a Ffrengig. Dilynodd ei dad fel newyddiadurwr, bu hefyd yn sbrintiwr proffesiynol am bum mlynedd yn yr 1890au. Yn 1894 hyfforddodd Bert Harris i ennill ei bencampwriaeth proffesiynol cyntaf. Yn 1896, cyflogwyd ef fel hyfforddwr seiclo ar gyfer gwmni Dunlop Tyres.

Chwaraeodd Mussabini snŵcer i safon uchel yn ogystal ac adroddodd ar gemau fel newyddiadurwr chwaraeon yn ystod y gaeaf. Cyd-ysgrifennodd llyfr technegol am snŵcer yn 1897 a dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar gyfer newyddiadur snŵcer. Yn 1902, daeth yn gynorthwyydd golygol ac yn ddiweddarach yn gyd-berchennog a golygydd arni. Ysgrifennodd lyfr dau gyfrol am elfennau technegol snŵcer yn 1904.

Hyfforddodd y sbrintiwr De Affricanaidd, Reggie Walker, i ennill fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1908 yn Llundain. Hyfforddodd rhagor o chwaraewyr i ennill medalau aur yng Ngemau Olympaidd 1912 yn Stockholm. Apwyntwyd ef yn hyfforddwr llawn amser y Polytechnic Harriers rhwng 1912 a 1927.

Daeth a agwedd systematig i hyfforddi, yn hytrach na ond gwasanaethu fel masseur. Er engraifft, defnyddiodd dechnegau Eadweard Muybridge i ffotograffu symudiadau'r rhedwyr a'u techneg wrth orffen ras.

Yng Ngemau Olympaidd 1920 yn Antwerp hyfforddodd Albert Hill i ddau fedal aur yn y ra 800m a 1500m, a Harry Edward, i ennill y fedal efydd yn y ras 100m. Hyfforddodd Harold Abrahams i fedal aur yn y ras 100m ac arian yn y ras gyfnewid 4x100m yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Portreadwyd y llwyddiant hyn yn ffilm Chariots of Fire lle chwaraeodd Ian Holm ran Mussabini. Enillodd ei proteges fedalau bpellach ar ôl ei farwolaeth, yng Ngemau Olympaidd 1928. Fe hyfforddodd athletwyr i unarddeg medal Olympaidd mewn pump o emau i gyd, ond ni gyddnabyddwyd ef yn swyddogol oherwydd ei fod yn hyfforddwr proffesiynol mewn oes pan werthfawrogwyd amaturiaeth yn arbennig.

Enwebwyd ef gan Gyngor Southwark i dderbyn plac glas ar ei gyn-gartref, 84 Burbage Road yn 2004 a 2006, ond nid oes un wedi ei godi hyd yn hyn.[1]

Dyfyniad[golygu | golygu cod y dudalen]

"Only think of two things - the gun and the tape. When you hear the one, just run like hell until you break the other."

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]