Sallwyr Rhygyfarch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llawysgrif Ladin o'r 11g o darddiad Cymreig sydd wedi'i ysgrifennu a'i addurno yn arddull Gwyddelig yw'r Sallwyr Rhygyfarch. Fe'i hysgrifennwyd tua 1079, yn ôl pob tebyg yn y sgriptoriwm yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion.[1]

Mae'n cynnwys 159 o ddalennau felwm, ac fe'i rhannir yn yr adrannau canlynol: Llythyr Sant Sierôm i Chromatius ac Elidorus; Breviarius Apostolorum; Martyrologium Hieronymianum; a Thablau Amrywiol.

Roedd y llyfr yn perthyn i Rhygyfarch ap Sulien (1056?–1099), Esgob Tyddewi. Ar ffolio 158v, yn ei law ei hun, mae'n dweud wrthym bod y cyfrol wedi ei ysgrifennu iddo gan ysgrifennydd o'r enw Ithael, a bod yr addurnlythyrennau mawr yn waith ei frawd Ieuan. Roedd eu tad, Sulien, wedi astudio yn Iwerddon am 13 mlynedd; mae addurniad y gyfrol yn dangos tebygrwydd clir i lawysgrifau Gwyddelig o'r un cyfnod.

Mae'r llawysgrif bellach yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn fel MS 50.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Coleg y Drindod, Dulyn; adalwyd 3 Rhagfyr 2017.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Psalter and Martyrology of Ricemarch, gol. H. J. Lawlor, Henry Bradshaw Society 47 a 48, 2 gyfrol (Llundain, 1914)

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]