Rumpelstiltskin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rumpelstiltskin a merch y melinydd. Darlun gan Anne Anderson.
Rumpelstiltskin ar stamp o'r DDR (1976).

Cymeriad llên gwerin yw Rumpelstiltskin (Almaeneg: Rumpelstilzchen) yr enwir chwedl werin Almaeneg a gasglwyd gan y Brodyr Grimm ar ei ôl. Cyhoeddwyd fersiwn cyntaf y Brodyr Grimm yn y gyfrol Kinder- und Hausmärchen (1812) a chafodd ei diwygio ganddynt sawl gwaith ar ôl hynny nes ei chyhoeddi yn ei ffurf derfynol yn 1857.

Crynodeb y chwedl[golygu]

Yn y chwedl mae melinydd yn bostio wrth y brenin fod ei ferch yn droellferch fedrusach nag unrhyw un arall ac yn medru troellu aur allan o wellt. Mae'r brenin yn awyddus i weld os ydy hynny'n wir ac yn mynd â'r ferch i'w gastell lle mae'n ei chloi mewn stafell llawn o wair mewn tŵr uchel. Mae'n pwyntio at y gwellt ac yn gorchymyn iddi droi'r cyfan yn aur mewn tair noson. Os gwneir hynny bydd yn ei phriodi ond caiff ei dienyddio os na fedr hi.

Dydy'r ferch ddim yn gwybod beth i'w wneud. Does ganddi ddim cyneddfau arbennig mewn gwirionedd ac mae hi'n eistedd wrth y droell a dechrau gwylo. Yn sydyn, daw corrach i mewn i'r stafell. Mae'n cynnig gwneud y gwaith i'r ferch ar yr amod ei bod hi'n rhoi ei gwddfdorch (neclis). Yna mae'n troelli'r gwellt yn aur ac yn diflannu. Mae'r un peth yn digwydd trannoeth, yn gyfnewid am fodrwy'r ferch. Ar y drydedd noson daw'r corrach eto. Ond druan o'r ferch, does ganddi ddim byd o werth ar ôl i'w gynnig. Mae'r dyn bach yn cynnig gwneud y gwaith yn gyfnewid am blentyn cyntafanedig y ferch. Mae hi'n cytuno ac mae gweddill y gwellt yn cael ei droi'n aur ac yna mae'r corrach yn diflannu.

Pan wêl y brenin crintachlyd yr holl aur yn llenwi'r stafell mae'n priodi'r ferch. Mewn blwyddyn mae'r ferch, sy'n frenhines erbyn hynny, yn esgor ar fachgen bach golygus. Ond daw'r dyn bach a gofyn i'w gael ganddi. Beichio gwylo wna'r frenhines ac mae'r corrach yn tosturio wrthi. Dywed caiff hi gadw'r bachgen os medr hi ddyfalu ei enw gan roi tri diwrnod iddi gyflawni hynny. Mae'r frenhines yn anfon gwas i holi ym mhobman am enwau pobl ond dydy'r un ohonyn nhw yn iawn. Ar y trydydd diwrnod mae'r cennad yn dychwelyd eto ac yn adrodd fel y clywodd hen gorrach o ddyn yn dawnsio o flaen ogof mewn coedwig ryfeddol ac yn canu rhigwm sy'n datgelu eu enw anghyffredin, sef 'Rumpelstiltskin'.

Pan ddaw'r dyn bychan ar y drydedd noson mae'r frenhines yn datgan ei enw iddo. Mae Rumpelstiltskin yn gwylltio'n lân. Mae'n trawo'r llawr gyda'i droed de gan ei gladdu ac yna'n gafael yn ei droed chwith ac yn rhwygo ei hun yn ddau (yn y fersiwn llafar mae'n hedfan i ffwrdd trwy'r ffenestr ac mewn fersiwn arall mae'n suddo i dwll yn y ddaear).

Fersiynau eraill[golygu]

Mae hon yn chwedl werin ryngwladol y ceir sawl fersiwn ohoni mewn sawl diwylliant, e.e. chwedl Tremolino yn yr Eidal a Martinko Klingáč yn Slofacia.

Dolenni allanol[golygu]