Robert Guéï

Oddi ar Wicipedia
Robert Guéï
Ganwyd16 Mawrth 1941 Edit this on Wikidata
Man Edit this on Wikidata
Bu farw19 Medi 2002 Edit this on Wikidata
Cocody Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Traeth Ifori Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École spéciale militaire de Saint-Cyr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocratic Party of Côte d'Ivoire – African Democratic Rally Edit this on Wikidata
PriodRose Doudou Guéï Edit this on Wikidata

Swyddog milwrol a gwleidydd Iforaidd oedd y Cadfridog Robert Guéï (16 Mawrth 194119 Medi 2002) a wasanaethodd yn Arlywydd y Traeth Ifori o 1999 i 2000. Efe oedd y cyntaf i lansio coup d'état a chipio grym yn hanes Gweriniaeth y Traeth Ifori,[1] a'r unben cyntaf yn hanes Affrica i gael ei ddymchwel gan wrthryfel poblogaidd.[2]

Ganed ef ym mhentref Kabakouma yng nghyfnod Gwladfa'r Traeth Ifori. Un o lwyth yr Yacouba, un o'r bobloedd Mandé, ydoedd.[2] Cafodd ei hyfforddi yn Saint-Cyr, academi Byddin Ffrainc yn Gwern-Porc'hoed, Llydaw, cyn dychwelyd i'r Traeth Ifori a enillodd ei hannibyniaeth oddi ar Ffrainc ym 1960. Cyrhaeddodd uchafbwynt ei yrfa filwrol ym 1990 pan gafodd ei benodi'n bennaeth y fyddin gan yr Arlywydd Félix Houphouët-Boigny yn sgil miwtini.

Wedi marwolaeth Houphouët-Boigny ym 1993, fe'i olynwyd yn arlywydd gan lefarydd y cynulliad, Henri Konan Bédié. Gwrthododd Guéï gefnogi Bédié yn ei frwydr wleidyddol â'r cyn-brif weinidog Alassane Ouattara, gan felly chwalu'r berthynas rhyngddynt. Yn Awst 1995, deufis cyn etholiad arlywyddol, cyhoeddodd Guéï amhleidioldeb y fyddin wedi i brotestwyr galw am foicot wedi i'r llywodraeth rhwystro ymgyrchoedd ei gwrthwynebwyr, gan gynnwys atal Ouattara rhag ymgeisio. Ail-etholwyd Bédié gyda 96% o'r bleidlais, a pharhaodd y gwrthdystiadau. Wedi i Guéï wrthod gorchymyn Bédié i ddefnyddio milwyr i ostegu'r protestiadau, cafodd ei ddiswyddo o arweinyddiaeth y fyddin. Cafodd ei benodi'n weinidog dros ieuenctid a chwaraeon, ond fe'i diswyddwyd o'r cabinet a'r fyddin ym 1995 o ganlyniad i gyhuddiad o geisio coup.[1]

Ar 24 Rhagfyr 1999 arweiniodd Guéï coup d'état gyda chefnogaeth y milwyr cyffredin i ddymchwel yr Arlywydd Bédié. Er iddo honni ar y cychwyn nad oedd am grynhoi ei rym, yn yr etholiad arlywyddol yn Hydref 2000 hawliodd Guéï fuddugoliaeth serch enillodd ei wrthwynebydd, Laurent Gbagbo, ddwywaith y nifer o bleidleisiau bron. Trodd y bobl yn ei erbyn, a fe'i gorfodwyd i ffoi Abidjan. Ymsefydlodd ym mhentref Gouessesso, ger y ffin â Liberia.[1]

Cafodd Guéï ei wahodd gan yr Arlywydd Gbagbo i gynhadledd ailgymodi genedlaethol, ynghyd ag Ouattara a Bédié, i geisio tawelu'r gwrthdaro gwleidyddol yn y Traeth Ifori. Cytunodd y pedwar dyn i gefnogi'r broses ddemocrataidd. Fodd bynnag, ym Medi 2002, cyhoeddodd ei fod am dynnu cefnogaeth ei blaid yn ôl o lywodraeth Gbagbo, a'i cyhuddodd o artaith, camlywodraeth, ac ansefydlogi'r wlad. Ar 19 Medi 2002, diwrnod cyntaf Rhyfel Cartref Cyntaf y Traeth Ifori, saethwyd Guéï, ei wraig, a'u plant yn farw wrth iddynt cael cinio yn Abidjan, wedi i gannoedd o filwyr gwrthryfela. Yn 2016, cafwyd sawl swyddog yn euog o lofruddio Guéï, a dedfrydwyd tri ohonynt i garchar am oes.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Margaret Busby, "Obituary: General Robert Guéï", The Guardian (21 Medi 2002). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Tachwedd 2015.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Robert Guéï 1941–2002", Contemporary Black Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Chwefror 2024.
  3. (Saesneg) Ange Aboa, "Ivory Coast soldiers get life sentences for killing ex-president", Reuters (19 Ionawr 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Chwefror 2024.