Richard Meade
Gwedd
Richard Meade | |
---|---|
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1938 Cas-gwent |
Bu farw | 8 Ionawr 2015 West Littleton |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | joci, marchog mewn arddangosfeydd |
Taldra | 183 centimetr |
Priod | Angela Farquhar |
Plant | James Meade, Harry Meade, Lucy Meade |
Gwobr/au | OBE, Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, Welsh Sports Hall of Fame |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
- Gweler hefyd: Richard Meade (gwahaniaethu).
Arbenigwr marchogaeth Cymreig ac enillydd medal aur Olympaidd oedd Richard John Hannay Meade, OBE (4 Rhagfyr 1938 – 8 Ionawr 2015).[1]
Ym 1964, enillodd Meade Dreialon Ceffylau Burghley ar Barberry. Roedd yn aelod o'r tîm Prydeinig a enillodd y gystadleuaeth tri diwrnod yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1968 a Gemau Olympaidd yr Haf 1972, enillodd y fedal aur yn y gystadleuaeth unigol yn ogystal ym 1972.
Cafodd ei ethol yn Bersonoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC Cymru ym 1972.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Richard Meade. Sports-Reference.com.