Ricardo Piglia
| Ricardo Piglia | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Tachwedd 1941 Adrogué |
| Bu farw | 6 Ionawr 2017 o sglerosis ochrol amyotroffig Buenos Aires |
| Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, sgriptiwr, beirniad llenyddol |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | Respiración artificial, Burnt Money |
| Arddull | rhyddiaith |
| Gwobr/au | City of Barcelona Award, Gwobr Formentor, Gwobr Narratif Ibero-Americanaidd Manuel Rojas, José María Arguedas Prize, Gwobr Rómulo Gallegos, Prix Roger-Caillois, Premio Iberoamericano de Letras José Donoso, Cymrodoriaeth Guggenheim, diamond Konex award, Prif Anrhydedd y SADE |
| llofnod | |
Awdur straeon byrion a nofelau yn yr iaith Sbaeneg, beirniad llenyddol, ac academydd o'r Ariannin oedd Ricardo Piglia (24 Tachwedd 1941 – 6 Ionawr 2017) sy'n nodedig am gyflwyno ffuglen hard-boiled i lên yr Ariannin.[1]
Astudiodd ym Mhrifysgol Genedlaethol La Plata yn 1961–62. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, La invasión, yn 1967. Roedd yn hoff iawn o ffuglen dditectif boblogaidd, er iddo ddefnyddio themâu deallusol a chyfeiriadau cymhleth yn ei straeon ei hun. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r casgliadau Nombre falso (1975), Prisión perpetua (1988), a Cuentos morales (1995), a'r nofelau Respiración artificial (1980), La ciudad ausente (1992), a Blanco nocturno (2010).
Ysgrifennodd hefyd am hanes llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd, gan gynnwys gweithiau am Jorge Luis Borges, Roberto Arlt, Julio Cortázar, a Manuel Puig. Hyrwyddodd Serie Negra, cyfres o gyfieithiadau Sbaeneg o straeon hard-boiled Americanaidd. Addysgodd mewn sawl prifysgol, gan gynnwys Harvard a Princeton yn yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Ricardo Piglia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ebrill 2019.
- Academyddion o'r Ariannin
- Academyddion Prifysgol Harvard
- Academyddion Prifysgol Princeton
- Beirniaid llenyddol Sbaeneg o'r Ariannin
- Genedigaethau 1941
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Ariannin
- Llenorion straeon byrion Sbaeneg o'r Ariannin
- Marwolaethau 2017
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Ariannin
- Nofelwyr yr 21ain ganrif o'r Ariannin
- Nofelwyr Sbaeneg o'r Ariannin
- Pobl o Buenos Aires
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Ariannin
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 21ain ganrif o'r Ariannin
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Sbaeneg o'r Ariannin