Rhys James (Patagonia)

Oddi ar Wicipedia

Roedd Rhys James yn frodor o Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin ond bu'n byw yn Troedyrhiw, Merthyr Tudful am lawer o flynyddoedd. Yn 1886 teithiodd ar y llong Vesta i Batagonia i weithio ar adeiladu'r rheilffordd o Borth Madryn i Drelew. Ar ôl i'r rheilffordd gael ei chwblhau fe ddychwelodd i Gymru. Yn 1908 ymfudodd gyda'i deulu i Batagonia ond daethont nôl i Gymru yn 1914 ac ymgartrefu yn y Rhondda. Arhosodd ei fab, Richard, ym Mhatagonia ac yn Gorffennaf, 1914 priododd Mary S.Oliver, merch William Oliver, Trelew. Bu'n gweithio i Cwmni Masnachol Chubut ac ef oedd perchennog cyntaf Plas y Coed, Gaiman.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Companion to the Welsh Settlement in Patagonia. Eirionedd A. Baskerville, 2014. Cymdeithas Cymru Ariannin