Rhys Goch ap Rhicert

Oddi ar Wicipedia

Cyndad i'r beirdd Rhys Brydydd a Lewys Morgannwg oedd Rhys Goch ap Rhicert (bl. 12g, efallai). Ni chyfeirir ato mewn unrhyw ffynhonnell ddibynadwy heblaw'r achresi, ond daeth yn ffigwr adnabyddus yn y 19g oherwydd y lle a roddwyd iddo yn hanes llenyddiaeth Morgannwg gan Iolo Morganwg, a luniodd nifer o gerddi a'u priodoli iddo hefyd.

Gwybodaeth hanesyddol[golygu | golygu cod]

Gŵr o Forgannwg oedd Rhys Goch. Er ei fod yn gyndad i ddau o feirdd mawr Morgannwg yn yr Oesoedd Canol Diweddar, sef Rhys Brydydd a Lewys Morgannwg (enw go iawn: Lewys ap Rhicert), ni wyddys os oedd yn fardd ei hun neu ddim. Yn yr achres a gofnodwyd gan Gruffudd Hiraethog yn yr 16g, roedd yn wŷr i Einion ap Collwyn, gŵr sydd â lle amlwg yn hanes cynnar Morgannwg.[1] Yn ôl Iolo Morganwg, roedd yn byw yn ardal Tir Iarll ac mae'n ddigon posibl fod y traddodiad hwnnw'n ddilys.[2]

Iolo Morganwg[golygu | golygu cod]

Am fod y ddau fardd enwog yn ddisgynyddion i Rys, ceisiodd Iolo Morganwg brofi mai ef oedd sefydlwr ysgol o feirdd ym Morgannwg a ganai yn null y trwbadwriaid, a hynny yn y 12g pan reolwyd y rhanbarth gan y Normaniaid. Aeth ymhellach a lluniodd gorff o ganu serch a briodolwyd ganddo i Rys. Gwyddys erbyn heddiw mai ffugiadau yw'r cerddi hyn, tua 15 ohonynt o ben a phastwn Iolo ei hun a'r lleill yn "addasiadau" o gerddi canoloesol a gafodd yn y llawysgrifau, a'u bod yn rhan o'r corff mawr o ffugiadau llenyddol a thraddodiadau a ddyfeiswyd gan Iolo er mwyn dyrchafu lle Morgannwg yn hanes a llenyddiaeth Cymru.[3]

Er hynny, mae'r ffugiadau hyn yn cynnwys rhai o gerddi gorau Iolo, sy'n cael ei ystyried gan feirniaid diweddar yn fardd rhamantaidd o bwys. Am y cerddi a dadogir ar Rys Goch, dywed P. J. Donovan,

Pe bai'r cerddi hyfryd hyn yn perthyn i feirdd Morgannwg, byddai traddodiad o ganu rhydd godidog iawn yn perthyn i'r sir honno.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tud. 5, 22 et seq..
  2. P. J. Donovan (gol.), Cerddi Rhydd Iolo Morganwg (Caerdydd, 1980), tud. 162.
  3. Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 40, 110-12.
  4. Cerddi Rhydd Iolo Morganwg, rhagymadrodd, tud. xi.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948). Cefndir ffugiadau Iolo.
  • P. J. Donovan (gol.), Cerddi Rhydd Iolo Morganwg (Caerdydd, 1980). Detholiad sy'n cynnwys nifer o gerddi a briodolwyd i Rys Goch gan Iolo.