Rhyfel Colombia (1964–presennol)

Oddi ar Wicipedia
Delwedd:Ejercito de colombia.jpg
Milwyr Colombia

Rhyfel anghymesur o ddwysedd isel a ddechreuodd yng Ngholombia yng nghanol y 1960au yw rhyfel Colombia neu ryfel mewnol Colombia. Ymleddir rhwng y llywodraeth a'r lluoedd arfog cenedlaethol, grwpiau paramilwrol, syndicetiau troseddol a masnachwyr cyffuriau, a herwfilwyr adain-chwith megis FARC ac ELN sydd i gyd yn ceisio dal eu tir a chynyddu eu dylanwad yn y wlad.[1][2][3][4][5][6][7]

Mae gwreiddiau'r rhyfel yn y cyfnod a elwir yn La Violencia – a gafodd ei sbarduno gan lofruddiaeth y poblyddwr Jorge Eliécer Gaitán ym 1948[8] – ac adlach y gormes gwrthgomiwnyddol yng nghefn gwlad Colombia a gefnogid gan yr Unol Daleithiau yn y 1960au. Yn sgîl y hinsawdd wleidyddol hon, penderfynodd ymgyrchwyr milwriaethus y Blaidd Ryddfrydol a'r Blaid Gomiwnyddol i ad-drefnu'n llu chwyldroadol o'r enw Fuerzas Armadas Revolucionarias de Colombia (FARC).[9]

Amrywia'r rhesymau dros frwydro o grŵp i grŵp. Honnir y FARC a herwfilwyr eraill eu bod yn ymladd dros hawliau'r bobl dlawd yng Ngholombia drwy eu hamddiffyn rhag drais y llywdraeth a darparu cyfiawnder cymdeithasol drwy gomiwnyddiaeth.[10] Mynna'r awdurdodau taw trefn a sefydlogrwydd a sicrháu iawnderau'r dinasyddion yw amcanion y llywodraeth a'r lluoedd arfog. Safbwynt adweithiol a hawlir gan y grwpiau paramilwrol sy'n brwydro'r gerilas adain-chwith.[11] Cyhuddir grwpiau herwfilwrol a pharamilwrol o fasnachu cyffuriau a therfysgaeth. Cyhuddir y holl ochrau sy'n ymwneud â'r rhyfel o droseddau yn erbyn hawliau dynol.

Yn ôl astudiaeth gan Ganolfan Genedlaethol y Cof Hanesyddol, bu farw 220,000 o bobl rhwng 1958 a 2013 (177,307 o sifiliaid a 40,787 o ryfelwyr) a gorfodwyd mwy na phum miliwn o sifiliaid i adael eu cartrefi rhwng 1985 a 2012, sef y nifer fwyaf o bobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol ac eithrio'r sefyllfa yn Syria.[12][13][14] Mae 15% o boblogaeth Colombia yn ddioddefwyr uniongyrchol o ganlyniad i'r rhyfel.[15] Cychwynnodd drafodaethau heddwch yn 2012, ac ar 23 Mehefin 2016 cytunodd llywodraeth Colombia a FARC ar gadoediad, gan ddod yn agosach at derfyn i'r rhyfel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "War and Drugs in Colombia - International Crisis Group". Crisisgroup.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-20. Cyrchwyd October 14, 2014.
  2. "'Loco,' Colombia's Last Drug Lord, Extradited to New York". Foreign Policy. July 10, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-18. Cyrchwyd October 14, 2014.
  3. "Neo-Paramilitary Groups Consolidating in Colombia: Report". Insightcrime.org. Cyrchwyd October 14, 2014.
  4. "Neo-paramilitaries do not deserve political status: Govt". Colombia News - Colombia Reports. Cyrchwyd October 14, 2014.
  5. "armed conflict Archives - Colombia News - Colombia Reports". Colombia News - Colombia Reports. Cyrchwyd October 14, 2014.
  6. "peace talks Archives - Colombia News - Colombia Reports". Colombia News - Colombia Reports. Cyrchwyd October 14, 2014.
  7. "The Colombian "War on Drugs", A Family Affair - SHOAH". Shoah.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-01. Cyrchwyd October 14, 2014.
  8. Garry Leech (2009). Beyond Bogota: Diary of a Drug War Journalist. Boston, MA: Beacon Press. tt. 242–247. ISBN 978-0-8070-6148-0.
  9. Mario A. Murillo; Jesús Rey Avirama (2004). Colombia and the United States: war, unrest, and destabilization. Seven Stories Press. t. 57. ISBN 978-1-58322-606-3.
  10. "Farc-EP confirma muerte de Marulanda a través de un comunicado". Rebelion.org. 2008-05-26. Cyrchwyd 2010-07-26.
  11. "War on Drugs and Human Rights in Colombia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-26. Cyrchwyd 2010-11-09. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. "Informe ¡Basta Ya! Colombia: memorias de guerra y dignidad: Estadísticas del conflicto armado en Colombia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-26. Cyrchwyd 2016-06-25.
  13. Historical Memory Group (2013). ""Enough Already!" Colombia: Memories of War and Dignity" (PDF) (yn Spanish). The National Center for Historical Memory’s (NCHM). ISBN 978-958-57608-4-4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-10-09. Cyrchwyd 2016-06-25.CS1 maint: unrecognized language (link)
  14. "Report says 220,000 died in Colombia conflict". Al Jazeera. 25 July 2013.
  15. "Las víctimas su incidencia en la Mesa de Negociaciones de La Habana" (PDF). arcoiris.com.co. 14 May 2016.