Jorge Eliécer Gaitán
Jorge Eliécer Gaitán | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1903 Bogotá |
Bu farw | 9 Ebrill 1948 Bogotá |
Dinasyddiaeth | Colombia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, cyfreithegwr |
Swydd | Minister of Education of Colombia, Maer Bogotá |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol Colombia |
Plant | Gloria Gaitán |
Gwleidydd sosialaidd o Golombia oedd Jorge Eliécer Gaitán (26 Ionawr 1902 – 9 Ebrill 1948)[1] a fu'n weinidog yn llywodraeth y Blaid Ryddfrydol ac yn arweinydd poblyddol amlwg yn y 1930au a'r 1940au. Cafodd ei lofruddio yn ystod ymgyrch arlywyddol 1948, gan sbarduno'r cyfnod yn hanes Colombia a elwir La Violencia.
Ganed yn Bogotá, prifddinas Colombia. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Genedlaethol Colombia, Bogotá, ac yn Rhufain. Yno dylanwadwyd arno gan ddulliau gwleidyddol a rhethregol Benito Mussolini, er nad oedd Gaitán yn ffasgydd. Dychwelodd i Golombia a fe'i etholwyd yn aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr dros Dalaith Cundinamarca ym 1929, ac yn ei araith gyntaf yn y siambr fe laddai ar amodau planhigfeydd y United Fruit Company. Ymunodd Gaitán â Phlaid Ryddfrydol Colombia ym 1933, a sefydlodd ymblaid ei hun, Undeb Cenedlaethol Chwyldroadol y Chwith (Union Nacional Izquierdista Revolucionaria; 1933–35), cyn iddo ddychwelyd i'r Blaid Ryddfrydol. Gwasanaethodd yn Faer Bogotá o 1936 i 1937, yn weinidog addysg o 1940 i 1941, ac yn weinidog llafur, iechyd a lles cymdeithasol o 1943 i 1944.
Ymgyrchodd Gaitán am arlywyddiaeth Colombia am y tro cyntaf ym 1946, yn arweinydd ar ymblaid radicalaidd y Rhyddfrydwyr ac yn erbyn Gabriel Turbay, ymgeisydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol. Enillwyd yr etholiad gan Mariano Ospina Pérez, ymgeisydd y Blaid Geidwadol, o ganlyniad i'r rhwyg yn y Blaid Ryddfrydol. Yn ystod ei ail ymgyrch arlywyddol, ym 1948, llofruddiwyd Gaitán mewn cyfarfod o Gynhadledd Ryngwladol Gwladwriaethau'r Amerig yn Bogotá. Achoswyd terfysgoedd ar draws y brifddinas, a elwir El Bogotazo, gan nodi cychwyn y ddeng mlynedd o wrthdaro ar draws y wlad a elwir La Violencia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Jorge Eliécer Gaitán. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mai 2020.