Sgwrs:Rhyfel Colombia (1964–presennol)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Roedd gwirioneddol angen hon (ac eraill tebyg - mae na fylchau hanes mawr ar Wici) ond mae gen i ddau awgrym: dw i'n meddwl bod yr holl ddolenau coch yn troi pobl i ffwrdd. Dw i ddim yn hoffi darllen erthygl lle mae bron pob dolen yn neidio allan ata i, yn gweiddi "Dim erthygl yn fama!", "Dim erthygl yn fama!", "Dim erthygl yn fama!" Onid gwell ydy cynnwys rhyw ddwy neu dair dolen goch - fel sy'n digwydd ar enwici? Oni bai, wrth gwrs dy fod yn bwriadu creu erthyglau ar 'Blaid Ryddfrydol Colombia', 'Blaid Gomiwnyddol Colombia' neu 'Bobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol', wrth gwrs. Yn ail, mae 'Rhyfel' i mi'n golygu dwy wlad yn brwydro gyda'i gilydd; onid terfysgwyr yw rhain, neu ryfel cartref? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 29 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]