Rhyddid Panorama

Oddi ar Wicipedia
Gwlad Belg: Dim Hawl!
Awstria: Hawl perffaith
Rhyddid Panorama mewn dwy wlad wahanol:

Pob dydd, mae miliynau o bobl yn torri deddfau hawlfraint, heb yn wybod iddynt drwy gyhoeddi lluniau o gerfluniau. Mae'r rheol Rhyddid Panorama yn diffinio'r hawl i dynnu ffotograff o adeiladau modern, ac mewn rhai gwledydd fel Gwlad Belg, yr Eidal neu Ffrainc; mae hynny'n cael ei wahardd a'i gyfri'n 'dorr hawlfraint'. Yma yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, a gwledydd fel yr Almaen, caniateir i chi wneud hynny, ond mae trafodaethau'n digwydd yn Senedd Ewrop ar hyn o bryd ynglŷn ag ailwampio'r rheolau hyn a all weld dileu'r hawl neu'r rhyddid hwn.

Daw'r term o'r Almaeneg Panoramafreiheit (hawliau panorama),[1] yn erthygl 59 o Ddeddf Urheberrechtsgesetz,[2] Ceir deddf debyg ym Mhrydain: rhan 62 o Ddeddfau Hawlfraint, Dylunio a Phatentau 1988,[3] a gwledydd eraill.

Rhyddid i Banorama yng ngwledydd Ewrop.      Rhyddid llwyr, gan gynnwys gwaith 2D      Rhyddid i dynnu lluniau adeiladau'n unig      Ni chaniateir lluniau i ddefnydd masnachol, na'u rhoi ar Wicipedia      Gwaharddiad llwyr      Dim gwybodaeth

Mae'r ddau lun o'r 'Atomiwm', ar y dde, yn dangos mor wahanol yw'r sefyllfa mewn dwy wlad agos: ceir dau gerflun o'r Atomium, y naill yng Ngwlad Belg a'r llall yn Awstria. Mae'n ddigon posib y torrwyd deddfau Gwlad Belg sawl tro, drwy gyhoeddi llun o'r 'Atomium' ar Trydar a Facebook. Dan arweiniad Julia Reda ASE, ceisir cysoni'r rheolau ar draws Ewrop, gan ddefnyddio deddfau agored gwledydd Prydain fel model i weddill Ewrop. Mae Adroddiad Reda'n galw ar Senedd Ewrop i “sicrhau fod y defnydd o ffotograffau, fideo neu ddelweddau eraill sydd wedi'u gosod yn barhaol mewn llefydd cyhoeddus yn cael eu caniatáu.”

Fodd bynnag, mae nifer o Aelod Senedd Ewrop yn ceisio cyflwyno'r isgymal 'anfasnachol' gan newid yr hawl i banorama, sydd felly'n nacàu'r hawl i gyhoeddi lluniau o gerfluniau modern. Byddai hyn yn golygu y byddai ffotograffydd yn torri deddfau Ewropeaidd pe bai'n rhoi llun ar Facebook neu eu huwchlwytho i erthygl ar Owain Glyn Dŵr ar y Wicipedia Cymraeg!

Pe bai'r ddeddf newydd i wrthwynebu Rhyddid neu'r hawl i banorama, yna mae elfen chwerthinllyd yn dod i'r darlun! Caniateir tynnu llun y Tŵr Eiffel (oherwydd ei oed) - os tynnir y llun yn ystod y dydd. Ond fin nos, mae'r golau arno cael ei ystyried yn osodiad 3-dimensiwn gwahanol, felly ni fydd hawl gan unrhyw berson i dynnu llun o'r Tŵr yn ystod y nos!

Gweithiau Dau-ddimensiwn[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn trafod Rhyddid Panorama tri-dimensiwn, ac fel yr awgryma'r gair 'panorama': mae'n gymwys ar gyfer lluniau o'r tu allan neu'r awyr agored,[1][4] sy'n barhaol eu natur. Ystyr "parhaol" yma yw "am oes y cerflun neu'r gwaith".[5][6] Yn y Swistir caniateir y rhyddid i dynnu lluniau gwaith 2-ddimensiwn hyd yn oed e.e. paentiad olew modern ar wal, mewn man cyhoeddus - ar yr amod nad yw'r defnydd o'r llun ddim yr un defnydd a'r gwaith gwreiddiol.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Seiler, D.: Gebäudefotografie in der EU – Neues vom Hundertwasserhaus Archifwyd 2016-06-04 yn y Peiriant Wayback., in Photopresse 1/2 (2006), tud. 16. Adalwyd 2007-09-20.
  2. Seiler, D.: Fotografieren von und in Gebäuden Archifwyd 2016-05-21 yn y Peiriant Wayback., in visuell 5/2001, tud. 50. Gweler hefyd: §59 UrhG (Germany). Adalwyd 2007-09-20.
  3. Lydiate, H.: Advertising and marketing art: Copyright confusion Archifwyd 2016-04-22 yn y Peiriant Wayback.. Gweler hefyd: section 62 of the Copyright, Designs and Patents Act 1988. Adalwyd 2007-09-20.
  4. See e.g. Lydiate.
  5. 5.0 5.1 Rehbinder, M.: Schweizerisches Urheberrecht rhifyn 3., tud. 158, Stämpfli Verlag, Berne, 2000. ISBN 3-7272-0923-2. Gweler hefyd: §27 URG (Switzerland). Adalwyd 2007-09-20.
  6. Dix, B.: Christo und der verhüllte Reichstag Archifwyd 2012-02-08 yn y Peiriant Wayback., 21 Chwefror 2002.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: