Rhwng y Meini
Awdur | Christine James |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg y Bwthyn |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781907424885 |
Genre | Erthyglau |
Cyfrol gan y Prifardd Christine James yw Rhwng y Meini a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg y Bwthyn. Man cyhoeddi: Caernarfon, Cymru.[1]
Dyma gyfle i fwynhau, unwaith eto, yr areithiau a gyflwynodd Christine James o'r Maen Llog yn ystod ei chyfnod fel Archdderwydd Cymru - y ferch gyntaf i ddal y swydd arbennig honno. Gyda rhagair gan Jim Parc Nest.
Merch o gartref di-Gymraeg yn Nghwm Rhondda yw Christine James. Enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd doethuriaeth iddi am ei gwaith ymchwil ar Gyfraith Hywel. Mae hi bellach yn Athro Cysylltiol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn Taliesin (2000-2009), ac yn 2001 cyhoeddwyd ei golygiad o holl farddoniaeth Gwenallt. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005, a hi yw'r ferch gyntaf erioed i'w gorseddu'n Archdderwydd Cymru. Dyma ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.