Cinio Dydd Sul
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Rhost Sul)
Math | saig tatws |
---|---|
Yn cynnwys | roast beef, potato, Pwdin Efrog, stuffing, Grefi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pryd o fwyd traddodiadol i wledydd Prydain yw cinio dydd Sul sydd fel arfer yn cael ei weini ar ddydd Sul ac yn cynnwys cig rhost, tatws rhost, ac ychwanegiadau fel llysiau, grefi, pwdin Efrog a stwffin. Gall hefyd gynnwys llysiau eraill fel panas rhost, pys, moron, ffa, ysgewyll, blodfresych (yn aml gyda chaws) a brocoli. Mae cinio dydd Sul hefyd yn boblogaidd mewn rhannau o Iwerddon, yn arbennig yn Ulster.
Daeth y cinio dydd Sul yn bryd a oedd yn cael ei fwyta ar ôl gwasanaethau Cristnogol yn y bore. Mae'r arferiad o gael pryd mawr o fwyd yn dilyn gwasanaethau i'w weld mewn diwylliannau Ewropeaidd eraill ac mewn gwledydd Cristnogol o amgylch y byd.