Rhombws

Oddi ar Wicipedia
Dau rombws, gyda rhai o'u nodweddion wedi'u hamlygu.
Mae'r rhombws yn perthyn yn agos i'r sgwâr, y barcud a'r paralelogram.

Yn y Plân geometraidd Ewclidaidd, siâp syml yw'r rhombws (ll. rhombi), sy'n betryal. Mae ganddo bedair ochr o'r un hyd, ac oherwydd hyn, gelwir ef weithiau'n bedrochr hafalochrog. Yn achlysurol, gelwir ef yn 'ddiamwnt', gan ei fod mor debyg i'r symbol o ddiamwnt octahedrol ar gardiau chwarae.

Mae pob rhombws yn baralelogram ac yn farcut. Pe bai gan rombws ongl sgwâr, yna byddai hefyd yn sgwâr.[1][2]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r gair 'rhombws' o'r Groeg ῥόμβος (rhombos), sy'n golygu rhybeth sy'n troelli,[3] sy'n tarddu o'r gair ferf ῥέμβω (rhembō), sef "troi a throi".[4] Defnyddiai Euclid ac Archimedes y gair.[5] Mae'r arwyneb a adnabyddwn ni heddiw fel 'rhombws' yn groestoriad o rombws solid (tri dimensiwn) a ddisgrifiwyd gan Euclid ac Archimedes.

Arwynebedd[golygu | golygu cod]

Fel gyda phob paralelogram, mae arwynebedd K y rhombws yw lluoswm ei sylfaen a'i uchder (h). Y sylfaen yw unrhyw ochr (a):

Gellir hefyd mynegi'r arwynebedd fel y sylfaen wedi'i luosi gyda sin unrhyw ongl:

neu yn nhermau ei uchder ac ongl fertig:

neu hanner lluoswm y croesliniau p, q:

neu fel rhan-berimedr wedi'i luosi gyda radiws mewngylch y rhombws:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Nodyn: mae diffiniadau gwreiddiol Euclid o'r rhombws yn eithrio'r sgwâr, ond mae mathemategwyr heddiw'n ei dderbyn.
  2. Weisstein, Eric W. "Square". MathWorld. inclusive usage
  3. ῥόμβος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, ar Perseus
  4. ρέμβω, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, ar Perseus
  5. "The Origin of Rhombus". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2018-09-25.