Rhomboid

Oddi ar Wicipedia
Rhomboid
Mathparalelogram Edit this on Wikidata

Mewn geometreg dau-ddimensiwn, mae rhomboid yn baralelogram lle mae'r ochrau cyfagos yn anghyfartal o ran hyd, a lle na cheir ongl sgwâr. Bathwyd y term gan Euclid yn ei waith Elfennau; casglaid 1, Diffiniad 22.

Mae paralelogram gydag ochrau o'r un hyd (h.y. yn hafalochrog) yn rhombws, ond nid yn rhomboid. Os ceir onglau sgwâr yn y corneli, yna mae'n betryal, ond nid yn rhomboid.

Mae'r term 'rhomboid', bellach, yn cael ei ddefnyddio yn amlach na pheidio ar gyfer rhombohedron neu'r paraleleiped cyffredin, ffigwr solid gyda chwe wyneb lle mae pob wyneb yn baralelogram a lle mae pob pâr o wynebau cyferbyn yn gorwedd mewn planau paralel. Mae'r ffurf solid (3D) hefyd yn cael ei alw'n "brism rhombig", ac fe'i defnyddir yn aml mewn gwyddoniaeth i gyfleu ystyr dau a thri dimensiwn.

Perimedr ac arwynebedd[golygu | golygu cod]

Rhomboid

Mewn rhomboid gyda'i ochrau a a b a'u chder yn h, mae ei berimedr yn

h.y. cyfanswm y bedair ochr.

Cyfrifir yr arwynebedd drwy luosi hyd un ochr a, i'r linell cyferbyn, :

  • Sr = ab sen , gyda α yn nodi'r ongl a ffurfir gan a a b.

Gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Defnyddir y gair, mewn meddygaeth i gyfleu ffurf gyda'r siap hwn e.e. gweler yr erthygl Gwynegon. Ceir cyhyr ac amlinelliad math o ddail o'r enw rhomboid hefyd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Decapodiform Fin Shapes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-26. Cyrchwyd 2018-09-25.