Rhodri Talfan Davies
Rhodri Talfan Davies | |
---|---|
Ganwyd | 9 Chwefror 1971 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Tad | Geraint Talfan Davies |
Cyfarwyddwyr BBC Cymru Wales ers Medi 2011 yw Rhodri Talfan Davies (ganwyd 9 Chwefror 1971) . Mae'n aelod o fwrdd rheoli'r BBC,[1] ac yn gyn-newyddiadurwr a gweithredwr cyfathrebu.[2]
Bywyd personol ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies yng Nghaerdydd ym 1971 i Elizabeth Siân Vaughan Yorath a Geraint Talfan Davies, cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru a chyn rheolwr BBC Cymru Wales.[3]
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, ac Ysgol Ramadeg Brenhinol, Newcastle upon Tyne, ac aeth Davies ymlaen i astudio fel myfyriwr israddedig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (BA Anrh), a derbyniodd ddiploma ôl-radd mewn newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd gyrfa Davies gyda chyfnod byr fel is-olygydd ar y Western Mail yn 1993. Yn yr un flwyddyn ymunodd â'r BBC fel newyddiadurwr dan hyfforddiant, lle arhosodd fel cynhyrchydd a gohebydd newyddion tan 1999.[3]
Roedd Davies yn bennaeth rhaglenni rhanbarthol gyda BBC West ym Mryste rhwng 1999 a 2001, gan gymryd gofal o wasanaethau teledu, ar-lein a radio lleol ar draws y rhanbarth. Gadawodd y BBC yn 2001 i fod yn gyfarwyddwr teledu ar y cwmni newydd Homechoice (TalkTalk TV bellach). Yn 2005, penodwyd ef yn bennaeth marchnata teledu gyda'r gweithredwr cebl ntl.[4]
Yn 2006 dychwelodd Davies i'r BBC fel pennaeth strategaeth a chyfathrebu. Penodwyd ef yn gyfarwyddwr BBC Cymru Wales ym mis Medi 2011.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Biography. BBC.
- ↑ BBC - Press Office - Rhodri Talfan Davies appointed Director, BBC Cymru Wales. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2015.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (2014) Who's Who 2015. Reference Library: Bloomsbury. ISBN 9781408181201
- ↑ 4.0 4.1 Rhodri Talfan Davies replaces Menna Richards as director of BBC Wales. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2015.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Bywgraffiad BBC
Archifwyd 2016-04-10 yn y Peiriant Wayback