Rhieingerdd

Oddi ar Wicipedia

Ffurf arbennig o ganu serch canoloesol yw rhieingerdd, a ystyrir yn rhagflaenydd i'r canu serch llawn dychymyg diweddarach a geir yng ngwaith y Cywyddwyr o'r 14g ymlaen. Mae'n ffurf a gysylltir yn bennaf â gwaith Beirdd y Tywysogion a'r Gogynfeirdd yn gyffredinol.

Credir fod cysylltiad rhwng canu rhieingerddi a'r cyfeiriad a geir yn y llyfrau cyfraith canoloesol at ddyletswydd y bardd teulu i ganu i'r frenhines yn ei hystafell ei hun pan fynnai hynny. Molawd merch ifanc uchel ei thras yw'r rhieingerdd. Mae'r elfen gyntaf yn yr enw yn ffurf ar y gair Cymraeg Canol rhiain sef "merch ifanc (o dras uchel), brenhines", gair sy'n gytras â'r gair rhianedd yn Gymraeg, y gair Lladin regina ('brenhines') a'r gair Sanscrit rajni ('brenhines').[1]

Un o'r rhieingerddi mwyaf adnabyddus yw 'Rhieingerdd Efa', cerdd a ganwyd gan Cynddelw Brydydd Mawr i Efa, ferch y brenin Madog ap Maredudd o Bowys, yn y 12g. Cymeriad delfrydol, teip llenyddol, yw Efa yn y gerdd. Confensiwn oedd hyn a welir yng ngwaith y Trwbadwriaid ar y cyfandir hefyd, gyda'r gerdd yn canolbwyntio ar deimladau'r carwr yn hytrach na'r gariadferch. Yn y gerdd mae'r bardd wedi'i yrru yn alltud o lys y ferch am iddo ei digio ac mae'n anfon march fel negesydd ('llatai' y Cywyddwyr) i ymbil arni i adfer ei ffafr.

Gellir ystyried y Gorhoffedd yn ddosbarth o ganu o'r un cyfnod sy'n perthyn i draddodiad y rhieingerddi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol IV, tt. 3065, 3068.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • T. Gwynn Jones, Rhieingerddi'r Gogynfeirdd (Dinbych, 1915). Astudiaeth arloesol.