Rheilffordd ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rheilffordd ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn
Shropshire & Montgomeryshire Light Railway
Unknown BSicon "exKBHFa"
Shrewsbury Abbey
Unknown BSicon "exHST"
1 mi Gorllewin yr Amwythig
Unknown BSicon "exHST"
1¾ mi Meole Brace
Unknown BSicon "exHST"
3 mi Hookagate a Redhill
Unknown BSicon "xKRZ"
Croesiad Shrewsbury and Welshpool Railway
Unknown BSicon "exHST"
4 mi Edgebold
Unknown BSicon "exHST"
5¾ mi Cruckton
Unknown BSicon "exHST"
6¾ mi Shoot Hill
Unknown BSicon "exHST"
7¼ mi Ford a Crossgates
Unknown BSicon "exHST"
9½ mi Shrawardine
Unknown BSicon "exHST"
11¾ mi Nesscliffe and Pentre
Unknown BSicon "exHST"
12½ mi Edgerley
Unknown BSicon "exHST"
13½ mi Kinnerley
Unknown BSicon "exABZgl" Unknown BSicon "exSTRq" Unknown BSicon "exSTR+r"
Criggion branch, ymuno yn Kinnerley
Unknown BSicon "exHST" Unknown BSicon "exSTR"
15mi Wern Las
Unknown BSicon "exSTR" Unknown BSicon "exHST"
Chapel Lane
Unknown BSicon "exHST" Unknown BSicon "exSTR"
16mi Maesbrook
Unused continuation backward Unknown BSicon "exSTR" Unknown BSicon "exSTR"
Oswestry and Newtown Railway hyd at Groesoswallt
Unknown BSicon "exSTRl" Unknown BSicon "exABZg+r" Unknown BSicon "exHST"
Melverley
Unknown BSicon "exBHF" Unknown BSicon "exSTR"
18mi Llanymynech
Unknown BSicon "exABZgl" Unknown BSicon "exSTR+r" Unknown BSicon "exSTR"
Unknown BSicon "exSTR+GRZq" Unknown BSicon "exSTR+GRZq" Unknown BSicon "exSTR+GRZq"
Y ffin rhwng Cymru a Lloegr
Unknown BSicon "exSTR" Unused continuation forward Unknown BSicon "exSTR"
Oswestry and Newtown Railway i'r Drenewydd
Unknown BSicon "exSTR" Unknown BSicon "exHST"
Crew Green
Unknown BSicon "exHST" Unknown BSicon "exSTR"
Llanyblodwel
Unknown BSicon "exSTR" Unknown BSicon "exHST"
Llandrinio
Unknown BSicon "exKDSTe" Unknown BSicon "exSTR"
Nantmawr (chwarel)
Unknown BSicon "exKBHFe"
Criggion

Gorweddai Rheilffordd ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn, fel yr awgryma'r enw, o'r Amwythig i Lanymynech, Sir Drefaldwyn, efo cangen yn mynd i Grugion.

Agorwyd y lein, 18 milltir o hyd, o led safonol, ar 16 Awst, 1866. Roedd hi'n rhan o reilffordd arfaethedig, Reilffordd y Potteries, Amwythig a Gogledd Cymru, ac adnabuwyd y lein yn lleol fel 'The Potts'. Caewyd y lein ar 21 Rhagfyr 1866 oherwydd problemau ariannol. Ailagorwyd y lein rhwng Amwythig a Llanymynech yn Rhagfyr 1868, i Lanyblodwel yn Ebrill 1870, ac y cangen i Grugion ym Mehefin 1871. Caewyd y lein ar 22 Mehefin 1880.

Ffurfiwyd cwmni Rheilffyrdd Swydd Amwythig ym 1888, efo bwriad o estyn y lein i'r 'Potteries' ac yn bellach yng Nghymru; dechreuwyd ailosod cledrau ym 1891. Ond digwyddodd dim byd arall. Ond yn 1906 cyfarfu'r perchennog, J.H. Whadcoat, Cyrnol Holman Fred Stephens. Ffurfiodd y cyrnol Rheilffordd Gogledd Swydd Amwythig; newidwyd ei enw i Reilffordd Ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn, a llogwyd eiddo Rheilffordd Swydd Amwythig ganddo.

Pasiwyd Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn yn Chwefror 1909, a chliriwyd a thrwsiwyd y cledrau. Symudwyd y gweithdy locomotifau o'r Amwythig i Kinnerley. Gwrthodwyd cysylltiad ag orsaf reilffordd Amwythig, felly crewyd safle cyfnewid ym Moel Brace. Gwrthodwyd hawl i gyrraedd chwareli Nantmawr gan Reilffordd y Cambrian; oedd hynny'n golled mawr i'r rheilffordd. Ailadeiladwyd cangen Crigion, ag ailagorwyd ar 21 Chwefror 1912 ac i deithwyr ar 27 Gorffennaf. Ailagorwyd y brif lein yn swyddogol ar 13 Ebrill 1911 efo seremoni yng ngorsaf reilffordd Abaty Amwythig (Saesneg: Abbey Foregate).

Archebodd Stephens 2 locomotif tanc 0-6-2 efo'r enwau "Pyramus" a "Thisbe", ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus. Ar ôl sawl locomotif arall, prynodd y Cyrnol locomotif 0-6-0 Cwmni Beyer Peacock efo'r enw "Hesperus" ac yna dau arall o'r un dosbarth, a ailfedyddiwyd yn 'Pyramus' a 'Thisbe'.

Dioddefodd y rheilffordd pan gyrhaeddodd gwasanaethau bysiau ar ôl y rhyfel byd cyntaf, a chaewyd y gangen i deithwyr ym 1929. Defnyddiwyd Railmotor Ford ar y brif lein yn hytrach na trenau stêm, ond caewyd y rheilffordd i deithwyr ar 6 Tachwedd 1933.

Ailagorwyd y lein fel un filwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Crewyd sawl storfa arfau rhwng Llanymynech a'r Amwythig a llogwyd y lein i'r Adran Rhyfel o 1 Mehefin 1941, ond yn ddefnyddio gweithwyr y cwmni rheilffordd, a daeth y rheilffordd yn brysur iawn. Adeiladwyd safle cyfnewid newydd yn Hookagate. Parhaodd y prysurdeb ar ôl y rhyfel. Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffyrdd Prydeinig ym 1948.

Daeth defnydd o'r safleoedd milwrol yn llai efo colled yr ymerodraeth yn y 50au a chaewyd y lein yn gyfan gwbl ym 1960.[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]