Rheilffordd Gul
Mae Rheilffordd Gul (lluosog: Rheilffyrdd Culion), Rheilffordd Fechan (lluosog: Rheilffyrdd Bychan) neu Lein Fach (lluosog: Leins Bach) (Saesneg: Heritage Railway) yn cyfeirio at hen reilffyrdd traddodiadol a ddefnyddir heddiw'n bennaf i gludo ymwelwyr ar deithiau pleser. Yn aml, roedd y rheilffyrdd hyn yn cludo llechi, glo neu nwyddau diwydiannol eraill cyn i'r gwaith ddod i ben. Ar adegau, deuai criw o wirfoddolwyr at ei gilydd i gadw ac atgyweirio'r traciau, y trenau ac ail-agor y rheilffordd fel atyniad ar gyfer yr ymwelydd.
Cadwareth ac adfer Talyllyn[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Rheilffordd Talyllyn yn hynod bwysig gan mai dyma'r linell gyntaf i gael ei phrynu, ei hatgyweirio a'i hail-agor gan grwp o wirfoddolwyr. Fe brynnwyd y linell yn 1950 ac ers hynny mae rhai cannoedd o reilffyrdd eraill wedi dilyn y drefn ac yn agored i'r cyhoedd.
Rhestr o reilffyrdd bach yng ngwledydd Prydain[golygu | golygu cod y dudalen]
Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls
- Rheilffordd Corris
- Rheilffordd Dyffryn Rheidol
- Rheilffordd Eryri (Rheilffordd Ucheldir Cymru)
- Rheilffordd Fach y Friog
- Rheilffordd Ffestiniog
- Rheilffordd Llangollen
- Rheilffordd Llyn Llanberis
- Rheilffordd Llyn Padarn
- Rheilffordd Llyn Tegid
- Rheilffordd Mynydd Aberhonddu
- Rheilffordd Talyllyn
- Rheilffordd y Graig
- Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion
- Rheilffordd yr Wyddfa
- Tramffordd y Gogarth